Cystadleuwyr o Gymru yn ennill medalau mewn cystadleuaeth Sgiliau Ewropeaidd yng Ngwlad Pwyl

Mae myfyriwr Coleg y Cymoedd o Gaerffili, ac enillydd medal blaenorol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, wedi ennill medal efydd yng nghystadleuaeth EuroSkills, ar ôl hedfan i Gdańsk yng Ngwlad Pwyl i gystadlu yn nigwyddiad mwyaf Ewrop ar gyfer rhagoriaeth sgiliau ac addysg alwedigaethol.

Roedd Ruben Duggan, sy’n 21 oed, yn cymryd rhan yn y categori Plymio a Gwresogi yn nigwyddiad EuroSkills Gdańsk 2023, y gystadleuaeth Ewropeaidd a gynhelir bob dwy flynedd gan WorldSkills.

Teithiodd dros 600 o gystadleuwyr o bob cwr o Ewrop i Wlad Pwyl i arddangos eu gwybodaeth a’u galluoedd technegol mewn cyfres o heriau, i geisio dod i’r brig fel y gorau yn eu maes.

Yn ychwanegol at lwyddiant Ruben gyda’i fedal efydd, cafodd dau fyfyriwr o Gymru Fedalau Rhagoriaeth hefyd, sy'n cydnabod eu bod wedi cyrraedd safon fyd-eang.

Cafodd Rhydian Brown, 19 oed, o’r Wig, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, Fedal Rhagoriaeth mewn Datblygu'r We. 

A chafodd Daniel Davies, 21 oed, o Aberporth, sy’n gweithio ym mwyty Yr Hen Printworks ac yn astudio yng Ngholeg Ceredigion, yr un anrhydedd yn y categori Gwasanaeth Bwyty. 

Wrth siarad am ei brofiad o gymryd rhan yn nigwyddiad EuroSkills ac mewn cystadlaethau eraill ym maes sgiliau, dywedodd Ruben: 

“Allwn i ddim fod wedi dymuno cael profiad mwyaf cadarnhaol na’r hyn ges i wrth gystadlu yn nigwyddiad EuroSkills. 

“Mae hedfan i Gdańsk i gystadlu yn erbyn y goreuon yn y grefft wedi bod yn anhygoel. Nid yn unig rydw i wedi dysgu cymaint, mae fy nhiwtor wedi dysgu llawer hefyd, gan mai dyma'r tro cyntaf iddo gael myfyriwr yn cyrraedd cystadleuaeth EuroSkills.

“Doedd addysg gonfensiynol ddim yn gryfder gen i, a dw i’n meddwl bod cystadlaethau sgiliau yn gyfle gwych i ddangos eich potensial mewn ffordd ymarferol; mae’n helpu i ofalu bod pawb yn cael yr un cyfle i lwyddo.

“Mae cael y fedal efydd yn deimlad anhygoel. Wnes i ddim mynd i Gdańsk i ennill medal – cymryd rhan oedd bwysicaf i fi – felly mae dal y fedal yn fy nwylo yn deimlad gwirioneddol wych. WorldSkills Lyon 2024 ydy fy her nesaf i. Dw i’n barod amdani.”

Dechreuodd taith cystadleuaeth sgiliau Ruban wrth iddo ennill Efydd yn rhagbrawf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020 - y cystadlaethau rhanbarthol a gynhelir yng Nghymru gan y prosiect Ysbrydoli Sgiliau. Yn llwybr i gystadlu ar lefel genedlaethol, coronwyd Ruban hefyd yn brentis plymwr gorau’r DU yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn HIP 2022.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru: 

“Hoffwn longyfarch Daniel, Rhydian a Ruben ar eu llwyddiannau yn nigwyddiad EuroSkills Gdańsk 2023. Mae’n wych gweld eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u talent yn cael eu cydnabod ar lwyfan byd-eang, a dylent fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol, ac mae ariannu rhaglenni cystadlaethau sgiliau yn un o nifer o ffyrdd rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf er mwyn iddyn nhw allu meithrin gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.”

Nol i dop y dudalen