Telerau ac Amodau

Cyflwyniad

Mae'r telerau ac amodau sydd yn y ddogfen hon yn rheoli mynediad a defnydd gwefan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. u a'r E-Bortffolio. Sonnir am 'y Safle' yn y ddogfen hon wrth gyfeirio at safle gwe Ysbrydoli Rhagorieath Sgiliau yngh Nghymru. 

Gweithredwr y Safle
Gweithredir y Safle gan Ysbrydoli Rhagorieath Sgiliau yng Nghymru, a chyfeirir ato fel 'YRSN' trwy gydol y ddogfen hon. Y cyfeiriad yw Ysbrydoli Rhagorieath Sgiliau yng Nghymru, Coleg Sir Gar, Campws y Graig, Llanelli, SA15 4DN.

Trwydded

Mae YRSN yn rhoi caniatâd i chi ddefnyddio'r Safle yn unol â'r telerau ac amodau sydd yn y ddogfen hon.

Gall YRSN dynnu'r caniatâd hwn yn ôl ar gyfer defnyddio'r Safle unrhyw bryd, heb rybudd.

Deunyddiau ar y safle

Gall y Safle gynnwys deunyddiau sy'n eiddo i YSRN, neu ddeunyddiau mae GC wedi cael caniatâd i'w defnyddio. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i gynllun, diwyg, edrychiad, ymddangosiad a graffeg y safle. Diogelir hyn gan gyfreithiau niferus.

Gallwch edrych ar y deunydd sydd ar y Safle, ei ddefnyddio, ei lawrlwytho a'i gadw ar gyfer defnydd personol ac ymchwil. Ni chaniateir defnyddio'r deunydd at bwrpasau masnachol neu fusnes. Ni chaniateir ailddosbarthu neu ailgyhoeddi'r deunydd, rhoi'r deunydd i rywun arall neu wneud y deunydd ar gael i unrhyw berson neu sefydliad arall.

Mae defnyddio'r Safle mewn modd nad yw'n cyd-fynd â'r telerau ac amodau yn y ddogfen hon yn gallu arwain at gais am iawndal am golled neu niwed a/neu fe all fod yn drosedd.

Cywirdeb Gwybodaeth

Rhoddir yr wybodaeth yn y Safle yn ddidwyll ac er gwybodaeth a diddordeb cyffredinol yn unig. Gall hyn newid heb rybudd. Nid yw YRSN yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau yn yr wybodaeth yn y Safle. 

Ni ddylid dibynnu ar yr wybodaeth yn y Safle ac nid yw'n cyfrif fel unrhyw fath o gyngor neu argymhelliad. Wrth ddefnyddio'r Safle, rydych yn cytuno nad ydych wedi dibynnu ar yr wybodaeth yn y Safle. Bydd unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw un, neu unrhyw sefydliad arall a enwir neu a gyfeirir atynt ar y Safle, yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun.

Nid yw unrhyw beth yn y Safle yn bwriadu bod yn gynnig i gychwyn ar gytundeb.

Cysylltu

Mae'r Safle'n cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Nid yw YRSN yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau eraill. Nid yw unrhyw gyswllt yn bwriadu bod yn gymeradwyaeth o unrhyw fath gan YRN o'r wefan arall honno. 

Ni allwch greu cyswllt â'r Safle o safle neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig gan YRSN o flaen llaw.

Atebolrwydd

Nid yw YRSN yn gwarantu y bydd defnydd o'r Safle yn gweithio gyda'r holl galedwedd a meddalwedd sy'n cael eu defnyddio gan ymwelwyr y Safle.

Ni fydd YRSN yn atebol i chi o gwbl mewn unrhyw amgylchiadau am golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol (mae pob un o'r tri therm hyn yn cynnwys colled economaidd lwyr, colled elw (pa un a yw hynny'n golled uniongyrchol neu'n anuniongyrchol), colled busnes, lleihad ewyllys da ac unrhyw golled debyg) sut bynnag y'u hachoswyd, sy'n codi o ddefnyddio'r Safle, neu ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Safle.

Monitro

Bydd YRSN yn monitro defnydd y Safle, yn cynnwys gwybodaeth a roddir gan ddefnyddwyr cofrestredig ar gyfer cystadlaethau. 

Preifatrwydd
Gellir gweld polisi preifatrwydd YRSN wrth glicio ar y cyswllt isod. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ffurfio rhan o'r telerau ac amodau yma. Darllenwch y polisi preifatrwydd.

Cwcis
Gellir gweld polisi cwcis YRSN drwy glicio'r ddolen isod. Mae'r polisi cwcis yn rhan o'r telerau ac amodau hyn.  Darllenwch y polisi cwcis.

Cytundeb Cyflawn
Mae'r telerau ac amodau hyn a'r polisi preifatrwydd y cyfeirir ato yng nghymal 9 yn cynnwys yr holl delerau ac amodau rydych chi a YRSN wedi cytuno arnynt o ran defnydd a mynediad i'r Safle.

Telerau ac Amodau Cofrestriadau

Trwy gofrestru i gymryd rhan mewn gweithgaredd a ddyluniwyd, a ddatblygwyd ac a gyflwynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru rydych yn cytuno i'r Telerau ac Amodau canlynol.

Trwy gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru rydych yn cytuno i'r Telerau ac Amodau, Rheolau'r Gystadleuaeth a'r Hysbysiad Preifatrwydd a ganlyn.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â rheolau penodol i'r gystadleuaeth, a nodir yn y Briffiau Cystadleuaeth. Os bydd gwrthdaro, bydd y rheolau cystadleuaeth-benodol yn diystyru'r rheolau a amlinellir yn y ddogfen hon.

Dylid anfon unrhyw eglurhad o’r Telerau ac Amodau hyn, Rheolau’r Gystadleuaeth a’r Hysbysiad Preifatrwydd i info@skillscompetitionwales.ac.uk

Trwy gofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiad a drefnir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru rydych yn cytuno i'r Telerau ac Amodau a'r Hysbysiad Preifatrwydd a ganlyn.

Awdurdodi a derbyn y telerau ac amodau hyn

Rheolir a gweithredir y Safle gan YRSN o Gymru. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw anghydfod mewn perthynas â'r deunyddiau sydd wedi'u cynnwys yn y Safle yn cael eu rheoli dan gyfraith Lloegr fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod llwyr i ddatrys unrhyw anghydfod a allai godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu ddefnyddio'r Safle

Mae'ch defnydd parhaus o'r Safle yn dangos eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn.

Nol i dop y dudalen