Polisi Cwcis

Polisi Cwcis

Diweddarwyd ddiwethaf: 18fed Medi 2019

Rhagarweiniad

Mae’n bosibl y bydd Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ("ni" neu "ein") yn defnyddio cwcis, goleufâu gwe, picseli olrhain, a thechnolegau olrhain eraill pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan www.skillscompetitionwales.ac.uk, gan gynnwys unrhyw ffurfiau cyfryngau eraill, sianeli cyfryngau, gwefannau symudol, neu apiau symudol perthynol neu’n gysylltiedig â hynny (gyda’i gilydd yn gyfunol, y "Safle") er mwyn helpu i addasu’r Safle a gwella eich profiad.

Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Polisi Cwcis hwn ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm. Byddwn yn eich rhybuddio am unrhyw newidiadau trwy ddiweddaru dyddiad "Diweddarwyd Ddiwethaf"  y Polisi Cwcis hwn. Bydd unrhyw newidiadau neu addasiadau yn effeithiol ar unwaith o’r adeg pan gaiff y Polisi Cwcis a ddiweddarwyd ei bostio ar y Safle, a byddwch yn ildio unrhyw hawl i dderbyn rhybudd penodol o bob newid neu addasiad o’r math.

Cewch eich annog i adolygu’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd er mwyn cadw i fyny â diweddariadau. Ystyrir y byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau, yn ddarostyngol iddynt, ac ystyrir y byddwch wedi derbyn y newidiadau yn unrhyw Bolisi Cwcis diwygiedig drwy eich defnydd parhaus o’r Safle ar ôl y dyddiad pan gafodd y fath Bolisi Cwcis diwygiedig ei bostio.

DEFNYDDIO CWCIS

Mae "cwci" yn golygu llinyn gwybodaeth sy’n neilltuo dynodydd unigryw i chi a gaiff ei storio gennym ar eich cyfrifiadur. Yna mae eich porwr yn darparu’r dynodydd unigryw hwnnw i’w ddefnyddio bob tro rydych yn gwneud ymholiad i’r Safle. Rydym yn defnyddio cwcis ar y Safle i wella profiad y defnyddiwr trwy gadw data ffurflen dros dro os bydd dilysiad yn methu, darparu negeseuon ymateb i’ch gweithrediadau a lle bo’n briodol, eich cadw wedi mewngofnodi i’r Safle. Hefyd byddwn yn defnyddio cwcis i guddio baner y polisi cwcis unwaith y rhoddir clic ar "OK" felly ni fydd yn ymddangos eto ar ymweliadau dilynol am 180 o ddiwrnodau.

MATHAU O GWCIS

Mae’n bosibl y defnyddir y mathau canlynol o gwcis pan fyddwch yn ymweld â’r Safle.

Ein Cwcis

Mae ein cwcis ni yn "gwcis parti-cyntaf", a gallant fod naill ai’n barhaol neu’n rhai dros dro. Mae’r rhain yn gwcis angenrheidiol, hebddynt ni allai’r Safle weithio’n iawn neu allu darparu nodweddion a gweithrediadau penodol. Efallai y gellir analluogi rhai o’r rhain â llaw yn eich porwr, ond gall effeithio ar weithrediadau’r Safle.

Cwcis Diogelwch

Mae cwcis diogelwch yn helpu i nodi a rhwystro risgiau i ddiogelwch. Rydym yn defnyddio’r cwcis hyn i ddilysu defnyddwyr a diogelu data defnyddwyr rhag partïon anawdurdodedig.

Cwcis Rheoli Safle

Defnyddir cwcis rheoli safle i gynnal eich hunaniaeth neu sesiwn ar y Safle er mwyn i chi beidio â chael eich allgofnodi’n annisgwyl, a chedwir unrhyw wybodaeth a roddwyd i mewn gennych o dudalen i dudalen . Ni ellir troi’r cwcis hyn i ffwrdd yn unigol, ond rydych yn gallu analluogi’r holl gwcis yn eich porwr.

CYSYLLTU Â NI

Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau ynghylch y Polisi Cwcis hwn, cysylltwch â ni fel a ganlyn:

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
Coleg Sir Gâr
Heol Sandy
Pwll
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 4DN
Ebost:
info@skillscompetitionwales.ac.uk

 

Nol i dop y dudalen