Datganiad Hygyrchedd

Caiff gwefan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau ei rheoli gan prosiect Ysbrydili Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yng Ngholeg Sir Gar. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.

Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • Llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd 
  • Chwyddo’r testun dros 200% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd i’w ddeall â phosibl.

Mae cyngor ar AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw gwefan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau’n gweithio 

Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o wefan Cymru’n Gweithio yn hollol hygyrch:

  • Nid yw pob PDF yn hollol hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Mae rhai o’n fideos nad ydynt yn hollol hygyrch
  • Mae rhai rhannau o’n safle yn hen raglenni neu wedi eu hadeiladu ar systemau hŷn ac efallai nad yw’r rhain yn hollol hygyrch.
  • Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn defnyddio rhaglen trydydd parti ar gyfer archebu cit Troi eich Llaw ac felly ni all fod yn gyfrifol am unrhyw feysydd ar y safle nad ydynt yn hollol hygyrch

Beth i'w wneud os na allwch chi gyrchu rhannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille cysylltwch â ni trwy ebostio info@inspiringskills.wales. Er mwyn ein helpu i ddiwallu eich anghenion yn well, rhowch wybod inni ym mha fformat arall yr hoffech chi dderbyn gwybodaeth gennym, neu os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol.

Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 2 ddiwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydyn ni eisiau parhau i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws problem nad yw ar y dudalen hon, cysylltwch â info@inspiringskills.wales neu ffoniwch 01554 748032. Allwch anfos neges trwy'r bost hefyd i Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Coleg Sir Gar, Campws y Graig, Llanelli, SA15 4DN

Gweithdrefn gorfodi

Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch ymholiad neu gais ac eisiau gwneud cwyn amdanon ni, mae nifer o ffyrdd o wneud hynny:

  • Ebost: info@inspiringskills.wales
  • Ffon: 01554 748032
  • Bost: Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Coleg Sir Gar, Campws y Graig, Llanelli, SA15 4DN

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifoldeb am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd gwefannau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â fersiwn AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:

Fideos - Sain Ddisgrifio (Wedi ei ragrecordio)

Nid yw pob fideo sydd ei angen yn cynnwys sain ddisgrifio neu drawsgrifiad. Mae hyn yn golygu methiant o ran maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.2.5 (Sain Ddisgrifio (wedi ei ragrecordio)). Rydyn ni wrthi’n ceisio sicrhau bod pob fideo yn cwrdd â gofynion hygyrchedd.

Calendr digwyddiadau

Mae ein tudalen Digwyddiadau yn rhoi amlinelliad o weithgareddau a gynlluniwyd gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Mae'r calendr yn defnyddio meddalwedd trydydd parti ac nid yw wedi cael prawf hygyrchedd yn ffurfiol. Felly ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw ardaloedd ar y wefan hon nad ydynt o bosibl yn gwbl hygyrch.

Sut profon ni’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Medi 2020. Wnaethon ni profi y wefan trwy defnyddio offer lluosog, gan gynnwys offer ar-lein (wave.webaim.org), meddalwedd, (NVDA as a screen reader), a gwiriadau llaw gan ein datblygwyr Ridgeon Network. 

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni’n gweithio gyda datblygwyr i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1

Rydyn ni’n cynnwys canllawiau newydd ar gyfer PDFau a fideos er mwyn sicrhau y bydd fideos, PDFau a dogfennau eraill yn cydymffurfio’n llwyr yn y dyfodol â safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1.

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Medi 2020. Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Medi 2020.

Nol i dop y dudalen