Beth rydym yn ei wneud?

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn ymfalchïo mewn cefnogi pobl ifanc ledled Cymru i gyflawni rhagoriaeth. Rydym yn gwneud hyn trwy gefnogi dysgu galwedigaethol drwy Gystadlaethau Sgiliau i helpu annog pobl ifanc i ragori ym myd gwaith.

Mae’r prosiect a sicrhawyd gan Rwydwaith Llysgenhadon Sgiliau (SAN) yn 2014 yn fenter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a arweinir gan Goleg Sir Gâr. Sefydlwyd y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau yn 2011, ac mae’n cynnwys rhwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwr.

Ei brif ffocws yn 2014 oedd datblygu rhagoriaeth alwedigaethol, ac annog a galluogi mwy i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau drwy ehangu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar draws y sector addysg a hyfforddiant. Rydym yn cydnabod bod Cystadlaethau sgiliau yn benodol yn galluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn tra’n codi lefelau eu sgiliau i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Gallant yrru cynhyrchiant a ffyniant yn ein heconomi a chreu cymunedau mwy gwydn. Mae buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddiad yn nyfodol ein gwlad, ein busnesau a’n pobl.

Mae’r project yn rhoi gwell sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i newid bywydau i bobl ifanc yng Nghymru, gyda chyflogwyr yn elwa o fantais gystadleuol ychwanegol - drwy gyflogi unigolion medrus iawn sy’n dod â hyfedredd, a gwerth ychwanegol i’w busnesau ac sy’n cyfrannu at ffyniant Cymru gyfan.

Mae’r prosiect yn sefydlu diwylliant ar draws colegau a darparwyr hyfforddiant sy’n cyflwyno mwy na chymwysterau’n unig - mae’n datblygu sgiliau safon fyd-eang, gyda phrofiadau sy’n magu hyder a sgiliau byw unigolion.

Mae ymagwedd gydgysylltiedig i rannu arferion da ac arbenigedd yn flaenoriaeth, gan gyfrannu at godi safonau addysgu a dysgu ledled Cymru ac ymgorffori Cystadlaethau Sgiliau fel dull o asesu ansawdd y ddarpariaeth. Trwy elwa ar greu ethos Tîm Cymru, rydym yn ymgyrchu i godi safonau a chefnogi creu cronfa fwy o unigolion talentog iawn.

Nol i dop y dudalen