Busnesau Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cystadlaethau sgiliau i bobl ifanc

Busnesau Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cystadlaethau sgiliau i bobl ifanc.

Fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022, sef elfen o brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cafodd cystadleuaeth adeiladu ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed ei threialu. 

Roedd y gystadleuaeth yn bosibl drwy roddion o offer a gwobrau i bob ysgol gan y Ffederasiwn Gwaith Cerrig a Sgiliau Adeiladu Cyfle. Y gefnogaeth hon gan fusnesau sydd wir yn helpu i sicrhau bod cystadlaethau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth i addysg pobl ifanc, boed hynny drwy ddarparu mynediad at offer cyfoes, o ansawdd uchel, neu'n cynnig cipolwg hanfodol ar yrfaoedd.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw helpu i annog a chefnogi talent o Gymru i fireinio eu sgiliau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, gyda phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn gyffredinol yn rhoi gwell sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i newid bywydau i bobl ifanc.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd tystysgrifau a medalau i enillwyr y gystadleuaeth adeiladu 14-16 yn ystod cyflwyniad ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr, a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer myfyrwyr a enillodd aur, arian ac efydd yn y gystadleuaeth ar gyfer Cymru gyfan.

Cafodd y myfyrwyr ysgol eu cynnwys yn y gystadleuaeth a oedd newydd ei threialu gan y tîm adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr, wrth iddyn nhw astudio cwrs adeiladu mewn cyswllt â’r ysgol yn y coleg.

Jac Morgan o Ysgol Gyfun Coedcae enillodd y wobr aur, Osian Roberts o Faes y Gwendraeth enillodd y wobr arian, ac fe enillodd Dion Williams o Faes y Gwendraeth y wobr efydd.

Cafodd y cystadleuwyr eu beirniadu ar wahanol feysydd o'u gwaith gan gynnwys aliniad, uniadu, cymhennu ac economi deunyddiau.

Mae ISEiW yn credu bod perthynas â busnesau lleol a chenedlaethol yn allweddol i lwyddiant ei gystadlaethau a'i weithdai, ac nid oes modd tanbrisio'r manteision y mae hyn yn eu cynnig i fyfyrwyr. Y sectorau sy’n cael eu cwmpasu gan y prosiect yw Adeiladu ac Isadeiledd, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw, TG a Menter, y Cyfryngau a Chreadigol.

Os hoffai eich busnes gymryd rhan neu roi cymorth i gystadleuaeth yn un o'r meysydd hyn, cysylltwch â: info@skillscompetitionwales.ac.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, cliciwch yma [https://inspiringskills.gov.wales/competitions]

Nol i dop y dudalen