Cydnabyddiaeth i bobl ifanc dalentog mewn digwyddiad ar draws Cymru

Cafodd cystadleuwyr o bob cwr o Gymru fedalau aur, arian ac efydd mewn digwyddiad i ddathlu llwyddiannau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sef rhaglen genedlaethol sy’n cydnabod talentau galwedigaethol mewn amrywiaeth o sectorau.  Mae’r cystadleuwyr wedi cael eu henwi fel y goreuon yng Nghymru yn y sgìl o’u dewis.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ledled y wlad er mwyn dathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr medrus a thalentog ar gyfer y gweithlu yng Nghymru. Oherwydd pandemig y coronafeirws, cafodd cystadleuaeth eleni ei chynnal mewn amrywiol ffyrdd, gyda rhai cystadlaethau’n cael eu cynnal ar-lein ac eraill ym man astudio neu yng ngweithle’r cystadleuwyr.

Bu dros 550 o bobl yn cystadlu mewn 53 cystadleuaeth ledled Cymru, gan ennill 68 medal aur, 70 medal arian a 64 medal efydd yn y gwahanol gategorïau.

Enillodd Adele Hughes, 20 oed o Wrecsam, wobr aur mewn peirianneg awyrenegol. Dywedodd Adele: “Roedd yn andros o sioc clywed mai fi oedd wedi ennill y gystadleuaeth. Dydy’r newyddion ddim wedi fy nharo i’n iawn eto, ond dwi mor falch.

“Ar hyn o bryd rydw i’n gwneud prentisiaeth gyda Raytheon UK, ac roeddwn i’n gallu rhoi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yno ar waith yn y gystadleuaeth, gan gynnwys sut mae torri metel a defnyddio rhybedion i uno darnau.

“Roedd theori ar-lein yn rhan o’r gystadleuaeth hefyd, ac rydw i wedi arfer â hynny fel rhan o'r astudiaethau yn fy mhrentisiaeth. Er nad oeddwn i’n gwybod beth fyddai yn y prawf, fe wnes i allu gweithio drwy’r prawf i gyd a’i gwblhau’n llwyddiannus.

“Rydw i wedi cofrestru’n barod ar gyfer y set nesaf o gystadlaethau, ac rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach yn ogystal â chwblhau fy mhrentisiaeth yn Raytheon UK.”

Roedd Zoe Price, 18 oed o Sir Benfro, hefyd wedi ennill gwobr aur yn y categori dylunio graffeg.

Dywedodd Zoe: “Doeddwn i erioed wedi bod yn rhan o gystadleuaeth o’r blaen. Roeddwn i’n teimlo’n gyffrous iawn ac yn poeni braidd am y syniad, ond ar ôl ychydig funudau fe wnes i fwrw iddi a mwynhau’r broses yn fawr.

“Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd yn rhaid i mi ddylunio logo ar gyfer cwmni ffug o’r enw ‘Space M’. Roedd yn rhaid i mi ddangos sut byddwn i’n defnyddio’r logo wrth hysbysebu yn ogystal â dylunio’r logo, a oedd yn rhywbeth diddorol iawn i’w wneud. Fe gefais i syniad creadigol o hysbysebu’r cwmni drwy dri dyluniad poster a oedd yn cyd-fynd â’i gilydd, gyda’r logo i’w weld yn amlwg yn y dyluniad.

“Roeddwn i wrth fy modd pan glywais i fy mod i wedi ennill medal aur. Roedd yn deimlad mor braf ennill rhywbeth rydw i’n teimlo’n angerddol yn ei gylch ac yn mwynhau ei wneud. Mae wedi gwneud i mi deimlo’n falch iawn o fy ngwaith a’m gallu i ddylunio. 

“Rydw i eisiau canolbwyntio ar ddatblygu fy ngyrfa broffesiynol yn y diwydiant creadigol, ac rydw i wedi cofrestru’n barod ar gyfer cwrs newydd ynghylch cyfathrebu drwy graffeg, ac wir yn edrych ymlaen at ddechrau ar y cwrs.”

Cynhaliwyd y seremonïau gwobrwyo ar-lein ar 13 Mai a 27 Mai, ac roedden nhw’n dathlu doniau cystadleuwyr yn y sectorau TG a menter, creadigol a’r cyfryngau, iechyd, lletygarwch a ffordd o fyw, adeiladu a seilwaith, a pheirianneg a thechnoleg.

Mae’r seremonïau gwobrwyo yn dilyn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol a gynhaliwyd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, a oedd yn cynnig her i fyfyrwyr mewn amrywiaeth o gategorïau a sgiliau.

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau, a Llysgennad Sgiliau Cymru: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed ehangu a dangos eu sgiliau a’u galluoedd. Mae ennill medal yn ffordd wych o roi cychwyn da i’w gyrfaoedd.

“Mae’n bwysig creu cyfleoedd i bobl yng Nghymru ddangos eu doniau, oherwydd mae’n helpu i sicrhau ein bod yn darparu cenhedlaeth o weithwyr medrus iawn i gyflogwyr. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae’n hanfodol bod gan Gymru weithwyr talentog i roi hwb i’n hadferiad.

“Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn y cystadlaethau eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu hanes wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddyfodol disglair.”

Mae’r rheini a gymerodd ran yn y cystadlaethau lleol hyn yn cael cyfle i fod yn rhan o gystadlaethau WorldSkills ar lefel y DU. Os byddant yn llwyddiannus, bydd cyfle i symud ymlaen at gystadlaethau rhyngwladol, gan gynnwys EuroSkills a WorldSkills.

Nol i dop y dudalen