Yn Cefnogi Pobl Ifanc gyda'u dewisiadau gyrfa ar gyfer y dyfodol

Gall penderfynu pa faes sgiliau neu yrfa yr hoffech ei ddilyn fod yn benderfyniad anodd, yn enwedig o ran pynciau galwedigaethol. Dyna pam mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn falch o weithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i helpu i roi profiadau newydd i bobl ifanc trwy becynnau ‘Troi Eich Llaw’.

Beth yw Troi Eich Llaw?

Mae pecynnau Troi Eich Llaw yn rhoi mewnwelediad gwirioneddol a deniadol i ddysgwyr o rai o'r opsiynau gyrfa fwyaf poblogaidd a chyffrous. Gellir eu llogi, eu cludo a'u defnyddio i helpu myfyrwyr cynradd, uwchradd a choleg i brofi sgiliau mewn sectorau nad ydynt efallai wedi cael cyfle i'w profi neu eu hastudio.

Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda digwyddiadau Gyrfa Cymru ledled y wlad, gan gynnwys digwyddiadau ‘Beth Nesaf’ a ‘Dewiswch Eich Dyfodol’. Mae pecynnau Troi Eich Llaw ar gael i bobl ifanc eu gweld a rhoi cynnig ar sgiliau nad ydynt efallai wedi rhoi cynnig arnynt nac wedi meddwl amdanynt o'r blaen. Mae citiau rhyngweithiol ar gael yn y sectorau canlynol: Adeiladu ac Isadeiledd, Digidol, Busnes a Chreadigol, Peirianneg a Thechnoleg ac Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw ac yn cynnwys profiadau fel weldio, gosod brics, ynni gwyrdd, animeiddio 2d/3d a gwallt a harddwch.

Andrea Jones yw Rheolwr Datblygu Gweithredol Gyrfa Cymru a dywedodd:

“Mae ein partneriaeth gyda’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o wahanol yrfaoedd mewn ffordd ryngweithiol.

Mewn rhai achosion, mae cymaint â 3,000 o bobl ifanc yn mynychu ein digwyddiadau a bydd pob un o’r rhain yn dysgu mewn ffordd wahanol. Nid yw pawb yn dysgu trwy ddarllen neu gael gwybod.

Dyna pam mae’r pecynnau Troi Eich Llaw yn allweddol - mae’n ffordd fwy deniadol i berson ifanc roi cynnig ar alwedigaeth cyn gorfod gwneud penderfyniad arni. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o sicrhau bod y profiadau rydyn ni’n eu cynnig yn gynhwysol.”

Mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau hefyd yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr a chwmnïau i’w cefnogi i arddangos eu sector mewn digwyddiadau Gyrfa Cymru, gan ddefnyddio pecynnau Troi Eich Llaw.

Dywedodd Andrea: “Mae cyflogwyr wrth eu bodd yn defnyddio’r citiau oherwydd mae’n helpu pobl ifanc i ddeall eu busnes mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Rydyn ni bob amser yn cael adborth gwych ganddyn nhw ac maen nhw bob amser yn awyddus i archebu'r citiau ar gyfer y ffair gyrfaoedd nesaf.”

Gan weithio mewn partneriaeth, nod y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau a Gyrfa Cymru yw cefnogi cenedlaethau’r dyfodol ar adeg all fod yn anodd a llawn straen. Mae’r ymgysylltu gwerthfawr hwn â phobl ifanc yn helpu i gyflawni Strategaeth Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru a’r Warant i Bobl Ifanc.

Bydd mis Hydref 2023 yn fis prysur i’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau a Gyrfa Cymru, gyda digwyddiadau gyrfaoedd, yn cynnwys pecynnau Troi Eich Llaw, yn cael eu cynnal ledled Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i: https://gyrfacymru.llyw.cymru/digwyddiadau 

Gallwch ddarganfod mwy am yr ystod o becynnau Troi Eich Llaw ac am weithio mewn partneriaeth â thîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau drwy gysylltu â: info@haveagowales.co.uk

Nol i dop y dudalen