Cystadlaethau Sgiliau yn agor drysau i bobl ag anableddau dysgu ychwanegol

Cystadlaethau sgiliau’n rhoi hwb i yrfaoedd pobl ifanc ag anableddau dysgu ychwanegol

Mae Bluestone yn un o lawer o fusnesau yng Nghymru sy’n rhoi lleoliadau gwaith â thâl i gystadleuwyr

Mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael llwyfan i arddangos eu sgiliau mewn amgylchedd cystadleuol i helpu i sicrhau lleoliadau yn y byd gwaith.

Mae King, Morgan a Cecily, o Sir Benfro, yn un grŵp o ddysgwyr y mae eu perfformiad yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK wedi’u helpu nhw i gael profiad gwaith â thâl.

Ar hyn o bryd, maent yn cymryd rhan mewn rhaglen interniaeth gyda chyflogwr mawr yng Nghymru, Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone, ar ôl gwneud argraff dda iawn ar y cyrchfan arobryn wedi llwyddiant yn y cystadlaethau sgiliau.

Mae’r tri, a wnaeth ddechrau ar eu taith yn Academi Sgiliau Bywyd Coleg Sir Benfro, bellach yn cael profiad gwaith go iawn mewn ystod o leoliadau yn y diwydiannau TG, bwyd a diod, manwerthu a chadw tŷ.

Dywedodd King Khamhanphon, sy’n gweithio yng nghaffi Bluestone: “Dwi’n gweithio yn y caffi yn Bluestone ac wrth fy modd oherwydd y tîm. Maen nhw’n fy nghefnogi’n fawr ac ar hyn o bryd, dwi wedi cael lle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth gynhwysol, yn y categori Gwasanaeth Bwyty, yn rhan o rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK. Mae’r gystadleuaeth a’r interniaeth yn Bluestone wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder yn fawr.”

Yng Nghymru, ariennir cystadlaethau cynhwysol gan Lywodraeth Cymru drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, a chânt eu cyflawni gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Yn aml, bydd cystadleuwyr addawol yn mynd ymlaen i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK.

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn cystadlu’n y cystadlaethau cynhwysol ddewis o 12 categori, gan gynnwys Technoleg Cerbydau, Gwaith Coed, Gofal Plant, Sgiliau Bywyd a mwy.

Nod y cystadlaethau yw nid yn unig helpu i wella hyder a sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc, ond hefyd chwalu rhwystrau a helpu dysgwyr i gyflawni cerrig milltir sylweddol yn eu bywydau personol megis sicrhau swydd ac annibyniaeth ariannol.

Dywedodd Emma Jones, Rheolwr y Cwricwlwm yn yr Academi Sgiliau Bywyd: “Ry’n ni’n hynod falch o’n holl ddysgwyr. Mae’n wych gweld pa mor bell maent wedi dod ers dechrau yn yr academi ac yn yr interniaethau â chymorth. Weithiau, mae’r dysgwyr yn nerfus am gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, ond mae wir yn eu helpu i fagu hyder ac yn aml yn rhoi’r hwb sydd ei angen i symud i amgylcheddau gwaith go iawn.”

“Mae’r balchder y mae ein dysgwyr yn ei deimlo yn sgil bod yn gyfrannwr go iawn at eu cymuned wedi bod yn syfrdanol, ac rydym yn gweld twf mawr yn y maes hwn o’r cwricwlwm.”

Dywedodd Helen John, Rheolwr Academi Bluestone: “Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i bobl o bob oed, cefndir a gallu drwy ddysgu yn y gweithle a hyfforddiant. Mae menter interniaeth â chymorth yr Academi Sgiliau Bywyd yn un sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol, a daeth i’n sylw drwy lwyddiant y dysgwyr mewn sawl cystadleuaeth sgiliau.

“Mae cystadlaethau sgiliau cynhwysol yn ffordd wych i roi cyfle i bobl ifanc berfformio dan bwysau mewn amgylchedd waith, na fyddai bob amser yn bosib fel arfer, ac fel busnes, rydym wedi profi’n uniongyrchol y manteision o gyflogi pobl sydd â phersbectif ffres a chyfres sgiliau amrywiol a thalentog.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog dros yr Economi, Llywodraeth Cymru:Mae Cymru’n profi ei hun i fod yn genedl sy’n arwain y ffordd o ran creu cyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol. Hoffwn ddiolch i’r dysgwyr, y tiwtoriaid a’r sefydliadau sydd ynghlwm wrth fentrau fel hyn am eu gwaith caled yn helpu i drawsnewid y profiadau, y disgwyliadau a’r deilliannau i lawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru.

“Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills yw dathlu sgiliau a llwyddiannau dysgwyr wrth wella eu sgiliau cyflogadwyedd, felly mae’n wych gweld cymaint o sefydliadau ag enw da fel Coleg Sir Benfro a Bluestone yn lansio rhaglenni o’r fath ar y cyd.” 

Nol i dop y dudalen