Cystadlaethau sgiliau yn datblygu gweithlu'r dyfodol yn Airbus

“Fel cyflogwr, mae Cystadlaethau Sgiliau yn ein helpu i gefnogi ein staff i ddatblygu mwy na’u sgiliau technegol yn unig.”

Pam mae Airbus yn dweud bod Cystadlaethau Sgiliau yn allweddol i ddatblygu gweithlu'r dyfodol.

Mae brand awyrofod byd-eang blaenllaw gyda phresenoldeb yng Nghymru wedi amlygu pwysigrwydd Cystadlaethau Sgiliau i helpu i ddatblygu staff newydd yn y diwydiant.

Mae gan Airbus swyddfeydd yng Nghasnewydd, sy’n arbenigo mewn cysylltedd diogel, datrysiadau seiber a diogelwch seilwaith hollbwysig yn y DU a Glannau Dyfrdwy, sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu awyrennau.

Mae’r brand byd-eang wedi cyflogi cannoedd o brentisiaid o Gymru ac wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau technegol trwy raglen brentisiaeth, yn ogystal â rhoi cyfle i brentisiaid gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau.

Dywedodd Darren Collins, Rheolwr Hyfforddiant Airbus:

“Mae Airbus yn frwdfrydig i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu a dysgu sgiliau newydd. Mae’n allweddol i ni fel busnes ein bod yn hyfforddi pobl ifanc i ddod â nhw i mewn i’r diwydiant. Rydym yn annog ac yn cefnogi ein prentisiaid i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau oherwydd gall eu helpu i sefyll allan o’r dorf ac maent yn elwa cymaint o gystadlu.”

Yng Nghymru, mae’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau yn rheoli Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – cystadleuaeth flynyddol sy’n dod â myfyrwyr o 60+ o feysydd sgiliau ynghyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd i godi safon sgiliau yma yng Nghymru.

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’r cystadlaethau am ddim i gystadlu a byddant yn rhedeg o fis Ionawr i fis Mawrth yn 2024.

Wrth i ddiwydiant ddatblygu, felly hefyd y rhaglen gystadlu, gyda chystadlaethau ‘sgiliau gwyrdd’ newydd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau diweddaraf i gefnogi diwydiant a gweithlu mwy cynaliadwy.

Mae Darren Collins yn dweud:

“Rydym wedi cael straeon llwyddiant gwirioneddol gyda phrentisiaid sydd wedi cystadlu mewn Cystadlaethau Sgiliau. Rydym hefyd yn gweld ei fod wedi ein helpu i hyrwyddo ein cyfleoedd gwaith i fwy o fenywod, gan fod y diwydiant fel arfer wedi cael ei ddominyddu gan ddynion. Cafodd un cystadleuydd benywaidd lwyddiant mewn Cystadleuaeth Sgiliau ac fe helpodd hynny ni i ddangos bod ein cyfleoedd i bawb.

Fel cyflogwr, gallaf bob amser weld y prentisiaid hynny sydd wedi cystadlu - mae ganddynt ychydig o fantais ar lawr y siop oherwydd eu bod wedi cael y profiad o gystadlu yn erbyn rhai o bobl ifanc gorau'r diwydiant."

Yn nodweddiadol, dim ond dechrau’r daith yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru i ddysgwyr yng Nghymru gystadlu, gyda llawer yn mynd ymlaen i gystadlu ar lefel Genedlaethol y DU, a thu hwnt i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yn WorldSkills.

Dywedodd Richard Wheeler, Hyrwyddwr Sector Peirianneg ar gyfer y Prosiect Ysbrydoli Sgiliau:

“Mae cystadlaethau yn ffordd anhygoel i bobl ifanc brofi eu hunain.

Rwyf wedi gweld dysgwyr sy’n swil, yn datblygu nid yn unig eu sgiliau technegol ond hefyd eu sgiliau personol ac yn symud ymlaen o gystadlu ar lefel Cymru, hyd at gystadleuaeth yn rowndiau terfynol Cenedlaethol y DU. O'r sgiliau y maent yn eu datblygu i'r profiad a gânt, mae cymaint o fanteision i ddysgwyr sy'n cystadlu.

Mae’n anrhydedd i mi allu hyfforddi talent o’r fath yn fy niwydiant a byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i archwilio gwerth cefnogi eu staff i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau.”

Nol i dop y dudalen