Screen Alliance Wales yn codi safonau'r genhedlaeth nesaf o deledu a ffilm Cymraeg

Nesaf yn ein cyfres Datblygu Rhagoriaeth, buom yn siarad â Rhys Bebb, Rheolwr Addysg a Hyfforddiant Screen Alliance Wales, sefydliad dielw sy'n cydnabod potensial byd-eang y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Fel porth rhwng y diwydiant a'i weithlu, gan dyfu a hyrwyddo talent, criw a gwasanaethau'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, mae nodau Screen Alliance Wales yn cyd-fynd â rhai Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, gan eu gwneud yn bartner gwerthfawr i'n rhaglen Datblygu Rhagoriaeth. Elfen allweddol o hyn yw gweithio â thiwtoriaid a chreu partneriaeth â nhw i'w helpu i gynyddu a chaboli eu sgiliau.

"Rydyn ni eisiau i bopeth rydyn ni'n ei gyflawni fod yn gynaliadwy, sy'n golygu nad ydyn ni ond yn rhoi sgwrs ac yn gadael, ond yn hytrach bod y tiwtoriaid eu hunain wedi’u harfogi â’r un set o sgiliau i allu parhau i gyflwyno i'r myfyrwyr." (Rhys Bebb, Screen Alliance Wales)

Mae Rhys yn credu ei bod yn hanfodol bod tiwtoriaid yn parhau i gynyddu a chaboli eu sgiliau eu hunain, yn enwedig yn y diwydiannau creadigol, gan fod pobl bellach yn derbyn eu newyddion drwy amrywiaeth o gyfryngau, ac mae'r sianeli hynny eu hunain yn esblygu'n barhaus felly mae'n bwysig bod gan diwtoriaid y sgiliau i roi'r wybodaeth hon i'w myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

"Gall addasu fod yn frawychus i diwtoriaid, ond mae'n bwysig eu bod yn gwybod bod y gefnogaeth a'r arweiniad ar gael iddynt gan sefydliadau fel Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ni fydd yn rhaid iddynt wneud hyn ar eu pen eu hunain."

Mae gweithio mewn partneriaeth ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru hefyd yn caniatáu i sefydliadau fel Screen Alliance Wwales godi safonau, "Y dyddiau hyn mae'r diwydiannau creadigol yn dirwedd gystadleuol, mae mwy o gynnwys yn cael ei gynhyrchu, felly mae'n bwysig addysgu bod y pyst gôl yn symud yn gyson, ac mae'n hanfodol ein bod yn bodloni hynny," esbonia Rhys.

Mae sgiliau galwedigaethol yn hynod werthfawr i'r diwydiannau creadigol, wrth i'r newidiadau cyson y maen nhw’n mynd drwyddyn nhw yn gofyn am hyblygrwydd mawr gan y rhai sy'n gweithio ynddyn nhw, ac mae dysgu galwedigaethol mwy ymarferol yn hanfodol ar gyfer hyn.

Er bod y diwydiant teledu a ffilm yn cynnig cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o setiau sgiliau, mae prinder sgiliau yn y rolau llai creadigol, megis rolau rheoli neu adeiladu, a allai gynnwys rheoli set ffilm a'r amrywiaeth o staff sydd eu hangen ar gyfer y cynhyrchiad hwnnw, neu hyd yn oed adeiladu'r set ei hun.

I gael rhagor o wybodaeth am Screen Alliance Wales a'u cyfleoedd, cliciwch yma

 

I ddysgu rhagor am ein hyfforddiant DPP Datblygu Rhagoriaeth, cliciwch yma

Nol i dop y dudalen