Cofrestru ar agor ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024!

Mae cofrestriadau ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 bellach ar agor yn swyddogol! Dyma eich amser i ddisgleirio, arddangos eich doniau, a mynd â'ch sgiliau i'r lefel nesaf.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddai, a phrentisiaid yng Nghymru i herio, a chodi eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Mae’r 64 cystadleuaeth unigol yn cwmpasu sgiliau ar draws pedwar sector sy’n cynnwys: Adeiladu a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw a Digidol, Busnes a Chreadigol.

Pam dylech chi gymryd rhan?

Dywedodd 92% o ddysgwyr fod cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi gwella eu sgiliau ymarferol.

Dywedodd 91% fod cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi gwella eu cymhelliant a dywedodd 87% fod cymryd rhan wedi gwella eu hyder a’u hunan-barch.

Dywedodd un dysgwr fod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn “ddigwyddiad gwych a rhoddodd wybodaeth a mewnwelediad i mi o’r diwydiant rwy’n ceisio mynd iddo.”

Dywedodd un arall, “Rwy’n teimlo bod y gystadleuaeth wedi fy ysgogi i barhau â’r hyn rwy’n ei wneud hyd yn oed yn fwy, mae wedi agor fy llygaid ar sut i weithio yn y diwydiant campfa.”

Barod i blymio i mewn?

Dyma sut i gofrestru:

1. Ewch i dudalen gofrestru swyddogol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

2. Llenwch y ffurflen gofrestru gyda'ch manylion a'ch categori dewisedig ar gyfer y gystadleuaeth.

3. Adolygwch y telerau ac amodau a gwasgwch y botwm cyflwyno.

4. Cadwch lygad ar eich mewnflwch am gyfarwyddiadau pellach.

Mae cofrestriadau yn cau ar 4 Rhagfyr 2023.

Cynhelir y cystadlaethau ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror 2023, gan ddod i ben gyda Digwyddiad Dathlu ar 14 Mawrth i arddangos llwyddiannau’r holl gystadleuwyr.

I gael gwybod mwy am CSC, cliciwch yma

 

Nol i dop y dudalen