Cyrraedd eich nodau gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru

Fy enw i yw Zara Morgan, rwy'n 21 mlwydd oed a fy sgil yw Therapi Harddwch.

Dechreuais gystadlu yn 2018 pan gyflwynodd fy nhiwtoriaid yn y coleg ac anogodd fi i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a hwn oedd y penderfyniad gorau a wneuthum. Fy her fwyaf erioed oedd fy niffyg hunanhyder a chred ynof fy hun, mae cystadlu am y ddwy flynedd ddiwethaf wedi datblygu fy hyder i gyrraedd fy nodau personol. Fy nghyngor i fyddai dim ond mynd amdani! Felly os ydych chi fel fi yna Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw'r lle iawn i chi.

Mae cystadlu nid yn unig wedi fy helpu i dyfu fel therapydd harddwch ond hefyd fel person, mae hefyd wedi rhoi'r profiad a'r wybodaeth yr oeddwn eu hangen i gymryd y cam ac agor fy musnes fy hun.

Mae'r cofrestriadau'n agor ar 23 Tachwedd - 14eg Rhagfyr

Dyma'r ddolen lle gallwch chi gofrestru https://inspiringskills.gov.wales/skills-competition-wales

Nol i dop y dudalen