Mwy o bobl ifanc yn cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith trwy partneriaeth Rhagoriaeth Sgiliau Cymru a Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae pobl ifanc ar draws Cymru bellach gyda’r cyfle i ymarfer eu haith Gymraeg trwy cystadleuthau sgiliau.
Am y tro cyntaf, bydd lan at 9 cystadleuaeth Sgiliau Cymru gyda gofynion Cymraeg pendant, er mwyn hybu a helpu pobl ifanc i ymarfer eu haith, a mewn rhai achosion yn rhoi cyfle i ddysgwyr i brofi’r iaith am y tro cyntaf.
Mae ddysgwyr yn gally ddefnyddio’r Gymraeg trwy’r cystadleuthau isod:
Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod pwyslais gryf ar yr iaith gyda phobl ifanc trwy gystadlu- yn y pendraw yn anelu at targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae 15% o'r gystadlaethau gyda gofynon yr iaith Gymraeg a mae Rhagoriaeth Sgiliau yn anelu at cynyddu’r ffigyr wrth targedu sgiliau arall pob blwyddyn.
Meddai Emma Banfield o Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru:
“Mae cystadleuthau sgiliau yn rhoi cyfleoedd newydd i bobl ifanc ar draws Cymru. Trwy cystadlu, mae dysgwyr yn ennill sgiliau technegol newydd ond hefyd yn cynyddu mewn hyder a sgiliau personol, a dyna pam mae’n bwysig i ni fel prosiect ein bod yn medru cynnig cystadlu yn ddwy-ieithog. Achos bod cyfle da i bobl ifanc i brofi’r iaith yn naturiol, a’i ddefnyddio mewn ffordd ymarferol.”
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Maent yn ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr yn y sector addysg bellach, a’r Gymraeg trwy ddarparu staff addysgu cyfrwng Cymraeg ac adnoddau i gefnogi dysgwyr a phrentisiaid yn y colegau addysg bellach ledled Cymru.
Meddai Lisa O’Connor, Rheolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o gyd-weithio gyda Rhagoriaeth Sgiliau Cymru er mwyn mewnosod y Gymraeg yn y cystadlaethau sgiliau. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc wella eu sgiliau cyfathrebu Cymraeg mewn cyd-destun proffesiynol ac yn dangos gwerth y Gymraeg fel sgil yn y gweithle.”