Dros 100 yn chwifio’r faner dros Gymru yng nghystadleuaeth sgiliau DU

Dros 100 o bobl ifanc yn chwifio’r faner dros Gymru yng nghystadleuaeth sgiliau mwyaf y DU 

Bydd gan Gymru dîm o 115 o fyfyrwyr ifanc a phrentisiaid yn cystadlu i fod ar y brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK.

O’r 442 ar draws y DU, cafodd y 115 aelod o dîm Cymru eu dewis yn dilyn eu perfformiad yn ystod cyfres o gystadlaethau rhanbarthol herio, ac eleni, mae chwarter o gystadleuwyr y rowndiau terfynol yn Gymru.

Bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cystadlu ar gyfer medalau aur, arian ac efydd drwy gydol mis Tachwedd, gyda 50 o rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn cael eu cynnal mewn naw o leoliadau amrywiol.

Daw’r cystadlu i ben gyda seremoni i ddathlu ym Manceinion Fwyaf, â’r enillwyr yn cael eu coroni fel y goreuon yn eu crefft.

O Electroneg Ddiwydiannol yn Abertawe i Patisserie a Melysion yng Nghaerdydd a Cynnal a Chadw Awyrennau yng Nglannau Dyfrdwy, bydd pobl ifanc ar draws Gymru yn profi eu sgiliau mewn 39 o gategorïau gwahanol.

Yn ogystal â rhoi hwb i’w sgiliau a’u hyder, gall cystadleuwyr sy’n gwneud argraff dda o dan bwysau’r rownd terfynol cenedlaethol gael y cyfle i gynrychioli’r DU yn y “Gemau Olympaidd Sgiliau” yn Shanghai 2026. 

Mae Saskia Prothero o Ben-y-bont yn cystadlu yng ngategori Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd hi: “Mae bod ar restr fer rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn deimlad anhygoel. Rwyf wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn, felly mae cael y cyfle i arddangos fy sgiliau i weithwyr proffesiynol yn fy maes yn anrhydedd. 

Mae’r cystadlaethau wedi rhoi’r hyder imi fwrw ymlaen gyda fy ngyrfa, ac rwyf wedi cyfarfod nifer o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Rwyf wedi ennill profiad ymarferol go iawn, ac rwyf yn gobeithio fy mod wedi llwyddo i wneud digon i gystadlu’n rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod.”

Yn ogystal â’r cystadlu, bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr hefyd yn gallu siarad â chyflogwyr ac arbenigwyr diwydiant er mwyn cael cyngor ac arweiniad tra’n mynychu’r digwyddiadau.

Bydd cyfle i’r rheini na all fod yn bresennol yn y digwyddiadau ym Manceinion i wylio ar ddarllediad arbennig ar-lein, a fydd yn cynnwys cystadlu yn ogystal â chyfweliadau a chyngor gan enillwyr blaenorol, arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd. 

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Cymru: “Hoffwn longyfarch y cystadleuwyr o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol. Rydym yn hynod o falch bod gennym gymaint o bobl ifanc talentog yn cynrychioli Cymru a’n gweithlu medrus.

“Os ydych am ddod i’r digwyddiad neu am ei wylio ar-lein, rydym yn gobeithio y bydd y rowndiau terfynol yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau i safon fyd-eang. 

Rydw i a thîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru yn dymuno pob lwc i holl gystadleuwyr y rowndiau terfynol. Da iawn, pawb!” 

Mae rhaglenni datblygu WorldSkills UK, sy’n seiliedig ar gystadleuaeth, wedi’u cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant i arfogi pobl ifanc, gan gynnwys y rheini ag anableddau dysgu neu anghenion ychwanegol, â’r sgiliau i fod yn barod at waith. 

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan ymgeiswyr blaenorol, dywedodd 90% bod eu cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa wedi gwella, ac 86% yn nodi bod eu sgiliau cyflogadwyedd a rhai personol wedi gwella ar ôl cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau. 

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru: 

“Fel cenedl, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenedlaethau’r dyfodol, ac mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd effeithiol o uwchsgilio pobl ifanc a’u harfogi â’r sgiliau i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol. 

“Mae llwyddiant ein cystadleuwyr o Gymru bob blwyddyn yn tynnu sylw at y dalent a’r potensial sydd yma yng Nghymru, yn ogystal â’r cyfarwyddiad a’r hyfforddiant o’r safon uchaf maent yn eu cael. Mae cystadlaethau yn cynyddu’r broses o ddarparu a datblygu sgiliau ar hyd a lled y genedl yn sylweddol.

“Mae’r rhaglen WorldSkills yn helpu i ddarparu gweithlu talentog sy’n barod ar gyfer y dyfodol drwy ddarparu cyfle iddynt feistroli eu sgiliau ymarferol mewn awyrgylch cystadleuol, gan dynnu sylw at eu potensial ar lwyfan byd-eang.”

Competitor First Name Competitor Last Name Competition Organisation Name
Logan Cook 3D Digital Game Art Coleg Gwent 
Timur Aisin 3D Digital Game Art Grwp Llandrillo
Menna Isaac Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Amelia Whittal-Williams Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Rose Mathews Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Nerys Anna Southgate Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Tomos Rees Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Steffan John Lloyd Evans Accountancy Technician Coleg Sir Gar 
Toni Borgia Accountancy Technician NPTC Group of Colleges
Elena Cioata Accountancy Technician NPTC Group of Colleges
Rebecca Smith Accountancy Technician NPTC Group of Colleges
Kieran O'Loan Aircraft Maintenance Coleg Cambria
Jamie Foulkes Aircraft Maintenance Coleg Cambria
Aiden Williams Aircraft Maintenance Airbus UK
Henry Ankers Aircraft Maintenance Coleg Cambria
Jack Price Aircraft Maintenance Coleg Cambria
James Donohue Aircraft Maintenance Coleg Cambria
Jordan Lingham Automotive Body Repair NPTC Group of Colleges
Victoria Steele Automotive Refinishing NPTC Group of Colleges
Kaya Mujica Beauty Therapist Pembrokeshire College
Erin Owens Beauty Therapist Pembrokeshire College
Caitlin Mccann Beauty Therapist Coleg Sir Gar 
Carlie-Jayne Dutton Beauty Therapy Practitioner Pembrokeshire College
Jacob Gibbons CNC Milling University of Wales Trinity Saint David 
morgan evans CNC Milling University of Wales Trinity Saint David 
Theodore Philip-Holloway CNC Milling Coleg Cambria
Iwan Brewin CNC Milling Coleg Cambria
harry rogers CNC Milling Coleg Cambria
Tai Jones CNC Turning Unimaq
Kian Lloyd CNC Turning University of Wales Trinity Saint David 
Osian Roberts CNC Turning Grwp Llandrillo Menai 
Tierney Parker Commercial Make-Up Coleg Gwent 
Sapphire Francis Confectionery and Patisserie Coleg Ceredigion 
Jazmin Williams Confectionery and Patisserie NPTC Group of Colleges
Primrose Powell Confectionery and Patisserie Cardiff and Vale College
Eleri Jones Confectionery and Patisserie Cardiff and Vale College
Lydia Beavis Creative Media Make Up Coleg Gwent 
Leah Taylor Creative Media Make Up Coleg Gwent 
Laura James Creative Media Make Up Coleg Gwent 
Tyler Richardson Culinary Arts Coleg Ceredigion 
Gabrielle Wilson Culinary Arts NPTC Group of Colleges
Joey Bluett Cyber Security Coleg y Cymoedd 
James Smee Cyber Security Coleg y Cymoedd 
georgie mitchell Digital Media Production Coleg Gwent 
Matty Heward Digital Media Production Coleg Gwent 
Isabel Hurcum Digital Media Production Coleg Gwent 
Rosie-mae Moody Digital Media Production Coleg Gwent 
Ben Gillin Electrical Installation Lloyd Morris Electrical
Ethan Snell Foundation Skills: Catering Elidyr Communities Trust
Matthew Simmons Foundation Skills: Catering Elidyr Communities Trust
Emily Boulton Foundation Skills: Catering Coleg Gwent 
Morgan Gwyther Foundation Skills: Health & Social Care The College Merthyr Tydfil
Saskia Prothero Foundation Skills: Health & Social Care Bridgend College 
George Scully Foundation Skills: Health & Social Care Pembrokeshire College
Daniel Lock Foundation Skills: Health & Social Care Pembrokeshire College
oliver mathias Foundation Skills: Horticulture Pembrokeshire College
jack evans Foundation Skills: Horticulture Pembrokeshire College
anthony davies Foundation Skills: Horticulture Pembrokeshire College
Meaghan Gwillim Foundation Skills: Horticulture Bridgend College 
Rhys Rapado-Evans Foundation Skills: Horticulture Elidyr Communities Trust
Joshua miles Foundation Skills: Horticulture NPTC Group of Colleges
Sion Duncan Foundation Skills: IT Software Solutions for Business Pembrokeshire College
Emily Sinnott Foundation Skills: IT Software Solutions for Business Pembrokeshire College
TIA BARR Foundation Skills: IT Software Solutions for Business Coleg Gwent 
Laurina Marr Foundation Skills: Restaurant Services Elidyr Communities Trust
Cameron Bryant Foundation Skills: Restaurant Services Gower College Swansea  
Callie Morgan Graphic Design Gower College Swansea 
Dion Archer Hairdressing The College Merthyr Tydfil
Theresa Hayes Hairdressing Coleg Gwent
Holly Whitehouse Hairdressing Grwp Llandrillo Menai 
Kayleigh Hampson Hairdressing Grwp Llandrillo Menai 
Evan Klimaszewski Industrial Electronics Grwp Llandrillo Menai 
Faroz Shahrokh Industrial Electronics Gower College Swansea  
rhys lock Industrial Electronics Gower College Swansea 
Tarran Spooner Industrial Electronics Gower College Swansea
Adam Hopley Industrial Electronics Grwp Llandrillo Menai 
Ryan Griffiths Industrial Robotics Grwp Llandrillo Menai
Leighton Owen Industrial Robotics Grwp Llandrillo Menai
George Hedges Industrial Robotics Bridgend College 
Jack Evans Industrial Robotics Bridgend College 
Chloe Walford Industrial Robotics Bridgend College 
Martyna Duba Industrial Robotics Bridgend College 
Koziah Sylvester IT Support Technician Brother Industries Ltd 
Joseph Dancer IT Support Technician Cardiff and Vale College 
Georgia Cox Laboratory Technician Gower College Swansea 
Morgan Davies Laboratory Technician NPTC Group of Colleges
Rhys Barclay Landscaping Bridgend College
Bailey Rowland Manufacturing Team Challenge Coleg y Cymoedd 
Kieran Gagg Manufacturing Team Challenge Coleg y Cymoedd 
Sadie Jones Manufacturing Team Challenge Coleg y Cymoedd 
Benjamin Daniels Manufacturing Team Challenge GE Aviation
Josh Jones Manufacturing Team Challenge GE Aviation
Jack Pritchard Manufacturing Team Challenge GE Aviation
Matthew Richards Mechanical Engineering: CAD Coleg Sir Gar 
Jimmy Smith Metal Fabricator Coleg Cambria
Joshua Mitchell Network Infrastructure Technician Coleg Cambria Yale 
Rohan chavan Network Infrastructure Technician University of Wales Trinity Saint David 
David Ntino Network Systems Administrator University of Wales Trinity Saint David 
Tomos Evans Plumbing Pembrokeshire College
Bethany Carter Restaurant Service Coleg Y Cymoedd
Yuliia Batrak Restaurant Service Grwp Llandrillo Menai 
Ella Clements Restaurant Service Coleg Ceredigion 
Katy Law Restaurant Service Coleg Ceredigion 
Emily Keane Restaurant Service Coleg Ceredigion 
Grace Young Restaurant Service Pembrokeshire College
Elena Philipps - Waring Restaurant Service Pembrokeshire College
Leon Cook Web Development NPTC Group of Colleges
Delme Harries Collins Web Development Coleg Sir Gar 
Brandon Nicholson  Welding Coleg Cambria
Jordan Palmer  Welding Pembrokeshire College
Gethin Jones Welding Grwp Llandrillo Menai
Zachariah Winn Welding Coleg Cambria
Nol i dop y dudalen