Dim ond 27% o oedolion sy’n gweithio sy’n disgrifio eu swydd fel “gwyrdd”

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond chwarter (27%) o oedolion sy’n gweithio a fyddai’n disgrifio unrhyw ran o’u swydd fel “swydd werdd”, tra bod tua 1 o bob 20 (4%) o oedolion sy’n gweithio yn dweud bod y cyfan neu’r rhan fwyaf ohonynt o'u swydd yn ymwneud â gweithgareddau “gwyrdd”.

Diffinnir swyddi gwyrdd fel “cyflogaeth mewn gweithgaredd sy’n cyfrannu at warchod neu adfer yr amgylchedd” ac maent yn hanfodol i’r llywodraeth gyflawni ei hamcan o Sero Net erbyn 2050.

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru, prosiect Llywodraeth Cymru dan gyfarwyddyd Coleg Sir Gâr, yn cefnogi’r ymdrech hon. Mae'r fenter yn helpu pobl yng Nghymru i gyrraedd rhagoriaeth ac yn eu hysgogi i lwyddo yn y gweithlu.

Dywedodd Emma Banfield, Rheolwr Prosiect y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau:

“Mae’r ffaith mai dim ond 27% o weithwyr sy’n gallu dweud bod eu galwedigaethau yn “wyrdd” mewn unrhyw ffordd yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl ennill sgiliau gwyrdd.

Rydym wedi gweld yn ddiweddar bod pobl ifanc yn ymddiddori mewn sgiliau gwyrdd ac felly’n addasu ein portffolio cystadleuaeth gan sicrhau bod sgiliau gwyrdd yn cael eu gwreiddio ar draws portffolio eang. Mae ein cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy hefyd yn denu llawer o ddiddordeb.

Mae datblygu sgiliau newydd yn gwneud cymunedau yn fwy gwydn ac yn hybu cynhyrchiant yn ein heconomi. Mae buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cenedl, ein cwmnïau a’n pobl.”

Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth Cyfadran yng Ngholeg Sir Benfro:

“Mae’r gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy yn gyfle cyffrous i bobl ifanc, gan godi ymwybyddiaeth o rôl gynyddol bwysig cynhyrchu ynni adnewyddadwy, y cyfleoedd a’r heriau. Mae’r gystadleuaeth hefyd yn helpu i ddatblygu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant: datrys problemau, gwaith tîm, cyfathrebu effeithiol, rheoli adnoddau ac arweinyddiaeth.”

Mae datblygu rhagoriaeth alwedigaethol, annog a galluogi mwy o gyfranogiad mewn Cystadlaethau Sgiliau yn flaenoriaeth i'r prosiect a gefnogir gan ehangu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar draws y sector addysg a hyfforddiant.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/ 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Inspiring Skills yn info@inspiringskills.co.uk

Nol i dop y dudalen