*Newydd* - Lansio cystadleuaeth Sgiliau Bywyd ar gyfer Dysgwyr Cynhwysol

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi cyhoeddi lansiad ei gategori newydd sbon, Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Byw’n Annibynnol i ymuno â chylch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

Bydd y categori Sgiliau Byw’n Annibynnol newydd yn ymuno â’r 11 categori Sgiliau Cynhwysol presennol ar restr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni i roi cyfle i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol i herio, meincnodi a gwella eu sgiliau.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a thrwy’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau. 

Yn dilyn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol, cynhelir Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK bob blwyddyn ym mis Tachwedd. Eleni, bydd yr holl Gystadlaethau Sylfaenol cenedlaethol – sy’n cyfateb i’r Cystadlaethau Cynhwysol rhanbarthol – yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. 

Mae hon yn garreg filltir sy’n adlewyrchu ymrwymiad Cymru i’r cystadlaethau, gan mai dyma’r wlad gyntaf i roi categorïau Sgiliau Cynhwysol ar waith, a dyma’r nifer uchaf o gystadleuwyr o holl ranbarthau’r DU ers pum mlynedd yn olynol.  

Mae David Jones, Cydlynydd Pontio Dysgwyr yng Ngholeg Sir Benfro, wedi bod yn ymwneud llawer â gweithredu’r categori newydd, ynghyd â’i griw o gyd-weithwyr yn Academi Sgiliau Bywyd y coleg – maes cwricwlwm sy’n tyfu ac sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni sy’n addas ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd: “Fel tîm, fe wnaethon ni ddechrau sylwi er bod gennym ni lawer o ddiddordeb ymysg dysgwyr ein Hacademi Sgiliau Bywyd i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, roedden nhw weithiau’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i faes y gallen nhw gystadlu ynddo’n hyderus. Dyna pryd wnaethon ni ddechrau casglu briff ar gyfer categori sgiliau newydd; i roi cyfle i ddysgwyr a oedd eisiau datblygu eu sgiliau drwy hyfforddiant sy’n cael ei arwain gan gystadleuaeth i gymryd rhan.”

Bob blwyddyn mae rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr yn dod at ei gilydd i ysgrifennu briffiau manwl ar bob un o’r categorïau sgiliau. Ar ôl cyflwyno eu syniadau cychwynnol, chwaraeodd David a’r tîm yng Ngholeg Sir Benfro ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r categori Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Eglurodd: “Mae’r categori Sgiliau Byw’n Annibynnol yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ennill y wybodaeth a datblygu’r ymddygiadau sy’n ofynnol i fyw’n llwyddiannus ar eu pen eu hunain. Mae llawer o’n dysgwyr yn yr Academi Sgiliau Bywyd yn awyddus i fyw ar eu pen eu hunain, felly mae’r categori hwn yn gobeithio cynnig ffordd hwyliog ac unigryw o dynnu sylw at ddysgwyr unigol sy’n barod i gyrraedd y garreg filltir hon. 

“Bydd gwybodaeth a sgiliau’r cystadleuwyr yn cael eu profi ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, Sgiliau Arian, Hylendid a Gwneud Penderfyniadau; yr holl elfennau allweddol sydd eu hangen i dynnu sylw at eu hannibyniaeth a’u sgiliau cyflogadwyedd.”

Dywedodd Paul Evans, Arweinydd Prosiect y prosiect Ysbrydoli Sgiliau Cymru: “Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw dathlu sgiliau a chyflawniadau dysgwyr, felly roeddem wrth ein bodd pan ddaeth y tîm yn Academi Sgiliau Bywyd Coleg Sir Benfro ymlaen gyda’r awgrym hwn. Rydym yn awyddus iawn i wneud y cystadlaethau mor amrywiol a chynhwysol â phosibl. Mae wedi bod yn brofiad gwych o gydweithio i sicrhau bod hyn yn bosibl.”

Wrth symud ymlaen, mae David yn awyddus i gyflogwyr a cholegau gyflwyno mwy o’u myfyrwyr ar gyfer cystadlaethau sgiliau.

Ychwanegodd David:Mae cystadlaethau sgiliau nid yn unig yn rhoi hwb i hyder y dysgwr ond hefyd yn gallu bod o fudd enfawr i forâl y tîm yn y gweithle. Mae cystadlaethau’n rhoi cyfle i unigolion ddangos eu sgiliau hyd eithaf eu gallu a rhoi cyfle i gyflogwyr dyfu’n gyfannol a chodi dyheadau carfan gyfan.

“Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau fel tiwtor ac yna helpu i gydlynu un o’r categorïau wir wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gystadleuaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol yn blodeuo at ddiwedd y flwyddyn hon, ac rwy’n annog unrhyw un i fachu ar y cyfle gyda’r ddwy law.”

Bydd cofrestriadau ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni yn agor ym mis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth am y cystadlaethau ac i gael cyfle i gymryd rhan, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/  

Nol i dop y dudalen