Lansiad Rhaglen Llysgennad

Er mwyn parhau i gefnogi datblygiad pobl ifanc ledled Cymru rydym yn lansio Rhaglen Llysgenhadon i godi ymwybyddiaeth a chynyddu’r positifrwydd o amgylch gweithgareddau’r prosiect. 

Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o amgylch elfennau’r prosiect ISEiW, gyda ffocws ar y fenter Troi Eich Llaw a gweithgareddau Cystadleuaeth Sgiliau.  

Tra bydd y rôl yn esblygu wrth i ni barhau i ddatblygu’r rhaglen, rydym yn rhagweld mai ein llysgenhadon fydd wyneb Tîm Cymru a byddant yn cymryd rhan, ac yn ymgysylltu â gweithgareddau megis: 

  • Creu Flogiau a Blogiau
  • Cynorthwyo i gyflwyno gweithdai Troi Eich Llaw a gweithdai Cystadleuaeth Cymru
  • Cynorthwyo i gyflwyno cyflwyniadau

Bydd pob Llysgennad yn elwa’n fawr o’r rhaglen, ac ar ôl llofnodi’r cytundeb llysgennad, byddant yn cael hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i uwch-sgilio, yn derbyn cit wedi’i frandio a llawer mwy. 

Am fwy o wybodaeth ebostiwch info@inspiringskills.wales

Nol i dop y dudalen