Cam nesaf prosiect Ysbrydoli Sgiliau

Cyrraedd Cam nesaf prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru 

Mae prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi bod yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ledled Cymru archwilio llwybrau gyrfa a gwella a datblygu eu setiau sgiliau drwy ddulliau anghonfensiynol. 

Mae’r fenter a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn cyfuno tair elfen: menter Troi Eich Llaw, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Chymorth i Gystadleuwyr Rhyngwladol drwy WorldSkills y DU yng Nghymru, ac mae’n hybu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cynyddu effeithiolrwydd busnesau.   

Ers ei sefydlu yn 2014, mae'r prosiect wedi esblygu'n sylweddol, ac ym mis Ebrill 2020, cychwynnodd y prosiect yn swyddogol ar Gam 3 o gyflwyno'r prosiect.   Er bod cryn dipyn o’r gwaith yn aros yr un fath, mae gan y prosiect weledigaeth uchelgeisiol a’i nod yw datblygu ac esblygu fel y bydd yn ysbrydoli pobl ifanc ac yn codi eu dyheadau i gyflawni rhagoriaeth.  

Mae’r fenter Troi Eich Llaw yn caniatáu i ddisgyblion ledled Cymru gael blas ar opsiynau gyrfa gwahanol drwy ddefnyddio cyfarpar uwchdechnolegol. Gobaith y fenter yw annog mwy o ymgysylltiad â phobl ifanc mewn ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau yng Nghymru.   

Yn ogystal, mae’r prosiect yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni rhagoriaeth drwy sefydlu cystadlaethau sgiliau sy’n berthnasol i dwf economaidd, a’u helpu i ennill medalau mewn Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol a Rhyngwladol.   Gyda'r isadeiledd wedi'i sicrhau yng Nghymru, gallwn annog pobl ifanc i ennill y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen a hybu’r gwaith o greu swyddi a chyfoeth. 

Nod Cam 3 o’r prosiect yw adeiladu ar yr arferion da a gyflawnwyd dros y blynyddoedd cynt, gyda ffocws allweddol ar esblygu drwy gydweithio'n agos mewn partneriaethau gyda byd diwydiant, addysg a Gyrfa Cymru.  Ein ffocws yw darparu rhagor o brofiadau a sgiliau cyflogadwyedd i bobl ifanc i’w paratoi at y dyfodol. 

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru; “Mae cymryd rhan ym mhob un o elfennau’r prosiect yn ffordd wych i bobl ifanc roi prawf ar eu sgiliau a’u harddangos gan ddangos eu gallu i gyrraedd y brig.  

Rydym ni yng Nghymru’n ffodus iawn bod gennym y gallu i ysbrydoli a meithrin y sgiliau hyn, gan gystadlu mewn marchnad fyd-eang hefyd. Rwyf wrth fy modd â pherfformiad Cymru hyd yma ac yn edrych ymlaen at barhau gyda’r gefnogaeth hon yn y blynyddoedd i ddod“

Er mwyn tynnu sylw at rai o'r newidiadau a'r datblygiadau wrth symud ymlaen, hoffem groesawu aelodau mwyaf newydd ein Tîm. 

Carolyn Bailey, Swyddog Gweinyddol ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 

Mae Carolyn wedi gweithio ym myd Addysg ers dros 20 mlynedd; roedd ei rôl flaenorol gyda Cefnogi Myfyrwyr, yn cefnogi dysgwyr â nam ar y golwg/clyw. Mae Carolyn yn frwdfrydig dros y gwasanaethau Arfog ac mae’n wirfoddolwraig gyda Llu Cadetiaid y Fyddin. Ar hyn o bryd mae hi'n Hyfforddwr Rhingyll Staff ac mae'n dysgu ac yn mentora cadetiaid 12-18 oed ym mhob agwedd ar yr ACF gan gynnwys Trin Arfau, Saethu, Crefft Maes, Drilio, Cymorth Cyntaf a Llywio - rôl hynod werth chweil a llawn hwyl.

Ymunodd Carolyn â’r tîm ym mis Mawrth 2020 fel Swyddog Gweinyddol gyda phrif ffocws ar Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.  Mae ei rôl yn cynnwys delio â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r prosiect hwn: gan gynnwys delio ag ymholiadau gan fudd-ddeiliaid a phartneriaid, mynychu cyfarfodydd Grŵp Llywio a chynnal/llwytho dogfennau i fyny i borth cofrestru Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a monitro ei gynnydd. 

Michelle Snell, Hybwr Troi Eich Llaw

Daw Michelle o Gernyw yn wreiddiol ond mae wedi byw yng Nghymru bellach ers bron i 14 mlynedd, mae bellach yn ail gartref iddi. Astudiodd Michelle y gyfraith fel myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ac mae hi hefyd wedi hyfforddi fel athro. Mae hi wedi gweithio mewn amryw o leoliadau AB/AU, yn ogystal â gweithio fel tiwtor dysgu o bell. 

Mae Michelle wedi bod yn frwdfrydig dros addysgu a dysgu erioed a'i nod yw dod â'r brwdfrydedd hwn at y bwrdd i ddatblygu’r fenter Troi Eich Llaw  ymhellach. Gan weithio’n agos gyda’r tîm ehangach, mae Michelle wedi mynd ati’n ddiymdroi ac mae’n gweithio i ddatblygu adnoddau a chynnwys digidol i gefnogi pobl ifanc ymhellach gyda chyngor ac arweiniad gyrfaol.  Mae rhai o’r meysydd gwaith allweddol i Michelle yn cynnwys: 

  • Gweithio ar y cyd â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Gyrfa Cymru a’n partneriaid er mwyn adnabod anghenion lleol yr economi.
  • Archwilio datblygiad gweithdai pwrpasol, wedi’u teilwra i sectorau penodol, fydd yn darparu cyfle i bobl ifanc archwilio, profi a chwestiynu byd gwaith trwy sesiynau llawn hwyl a rhyngweithiol.
  • Herio stereoteipiau rhyw mewn diwydiant a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth   
  • Archwilio a datblygu rhaglen Llysgenhadon ar y cyd 

Rhys Harries, Hybwr Sgiliau’r Dyfodol 

Mae Rhys yn ymuno â’r tîm gyda chefndir amrywiol a phrofiadol, o weithio gyda chynghorau lleol yng Nghymru i weithio i’r GIG ac o fewn y sector preifat. Mae Rhys yn frwdfrydig iawn ynghylch chwaraeon a chystadleuaeth ac mae’n rhywun sydd bob amser yn ymdrechu i ddatblygu a llwyddo.  

Mae'r nodweddion hyn yn addas iawn ar gyfer y rôl sydd gan Rhys yn y tîm gan ei fod yn arwain o ran helpu i greu calendr o sesiynau DPP a sesiynau uwch-sgilio i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen.  Mae am greu cysylltiadau cryf gydag arbenigwyr a chyflogwyr ym myd diwydiant er mwyn gwella datblygiad tiwtoriaid a dysgwyr hefyd ledled Cymru.   Mae Rhys yn frwdfrydig iawn dros ddod â datblygiad a llwyddiant i Dîm Cymru. 

Mae rhai o’r meysydd gwaith allweddol i Rhys yn cynnwys: 

  • Darparu isadeiledd yng Nghymru sy’n dal ac yn rhannu arfer gorau ymhlith addysgwyr a diwydiant
  • Archwilio a darparu adnoddau a chyfleoedd DPP i addysgwyr a diwydiant. 
  • Cyflwyno Dyfarniad Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ymarferwyr Arbenigol mewn Ysbrydoli Sgiliau
  • Archwilio a datblygu rhaglen Llysgenhadon ar y cyd 
Nol i dop y dudalen