Sut gall ein pecynnau Troi Eich Llaw gyfoethogi eich addysgu?

Gwnaethom ni gyfweld â Katie Hope, Pennaeth Ffiseg Ysgol John Bright yn Llandudno, a gymerodd ran yn ddiweddar yn rhai o'n gweithdai Troi Eich Llaw gyda'i myfyrwyr, a sut y defnyddiodd hi nhw i ategu ei haddysgu.

Mae Katie o'r farn bod ei dysgwyr yn dangos y mwyaf o ddiddordeb pan fo'r wyddoniaeth y maent yn ei dysgu yn berthnasol iddyn nhw, a gallant ddychmygu eu rolau posibl mewn STEM mewn cyd-destunau yn y byd go iawn, er enghraifft gallai esbonio'r gallu i ddarllen data wneud swyddi gyda chyflog penodol yn gyraeddadwy iddyn nhw.

Rhan allweddol o strwythur y gweithdy yw'r adran 'Fy Stori i', lle gall gweithwyr proffesiynol y diwydiant a wahoddir i'r sesiwn esbonio eu rôl a'u taith yrfaol i'w swydd bresennol, a oedd yn arbennig o ddiddorol i fyfyrwyr Ysgol John Bright.

Roedd myfyrwyr Katie "eisiau gwybod sut roedd y bobl hyn wedi dod o fod yn yr un sefyllfa â'r myfyrwyr, i ble maen nhw nawr, ac felly'n fwy cyffredinol beth allai STEM ei wneud iddyn nhw."

Mae'r pecynnau Troi Eich Llaw hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol mwy amrywiol nag sy'n aml yn bosibl o fewn gwersi ysgol, a all helpu i'w hysbrydoli ac ennyn eu diddordeb mewn pynciau nad ydynt efallai wedi ystyried yn ddiddorol o'r blaen. 

"Cawsom amser gwych yn gwneud gweithdai Troi Eich Llaw," esbonia Katie, "aeth y myfyrwyr i’r afael â’r dasg ac maen nhw'n dal i ofyn i mi pryd y gallan nhw wneud hynny eto."

I Katie, roedd yn bwysig bod modd addasu'r pecyn a'r gweithdai i'r hyn a fyddai'n gweithio orau i'w dysgwyr. Esboniodd, oherwydd effaith Covid ar addysgu, na allai'r ysgol ganiatáu'r amser allan yn ystod y diwrnod ysgol i gynnal y gweithdai, felly bu'n gweithio gyda'r tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau i addasu’r rhaglen yn sesiynau byrrach, ar ôl ysgol. Roedd modd addasu strwythur y gweithdy yn hawdd hefyd, gyda mwy o bwyslais ac amser yn cael ei roi ar gyfer elfen ymarferol y sesiwn, a oedd yn sicrhau bod y myfyrwyr yn ymgysylltu'n dda. 

"Rwy'n gwybod bod y myfyrwyr wrth eu boddau oherwydd roedd pawb yn bresennol bob wythnos, ac mae mynychu gweithgareddau ar ôl ysgol yn ddangosydd poblogrwydd go iawn," meddai Katie.

Gyda newidiadau i'r cwricwlwm ar y gorwel, nid Gwyddoniaeth a Mathemateg yn unig fydd STEM mwyach, ond bydd yn ymgorffori Dylunio a Thechnoleg yn well, gan ganiatáu i fyfyrwyr wneud pethau drostynt eu hunain, yn hytrach na defnyddio eitemau a wnaed ymlaen llaw yn eu hymchwiliadau. Mae'r dull ymarferol hwn yn rhan allweddol o'r pecynnau Troi Eich Llaw, sy'n annog myfyrwyr i gymryd rhan a rhoi cynnig ar bopeth drostynt eu hunain.

"Byddwn yn bendant yn argymell gweithdai Troi Eich Llaw a hoffwn ddiolch i'r tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau am adael i ni redeg y prosiect fel yr oeddem ni am wneud, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y bartneriaeth yn parhau i'r dyfodol.” Katie Hope, Ysgol John Bright.

Mae Katie yn creu ei phecyn Troi Eich Llaw ei hun y mae'n gobeithio ei gyflwyno i ysgolion eraill ledled Cymru. Bydd y pecyn yn canolbwyntio ar yrfa, syniad a chwestiynau ar ffurf arholiad yn seiliedig ar bwnc, ac un ohonynt fydd pŵer trydan dŵr. Bydd y gweithdy'n edrych ar yr holl rolau mewn gorsaf bŵer, o beirianwyr i ddylunwyr graffig a chyfathrebwyr gwyddoniaeth, er mwyn ymgysylltu â'r holl fyfyrwyr yn y dosbarth, nid dim ond y rhai sydd â diddordeb mewn rolau mwy traddodiadol o fewn STEM. Ar ôl hyn, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau, yn seiliedig ar yr elfen ymarferol a fydd yn golygu adeiladu olwyn ddŵr allan o blatiau papur a llwyau plastig, i ddeall faint o badlau sydd ei hangen ar yr olwyn i gynhyrchu swm penodol o drydan. Bydd y sesiwn wedyn yn edrych ar bŵer trydan dŵr yn fwy cyffredinol, a'i rôl yn y Grid Cenedlaethol, cyn ateb cwestiynau arholiad. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Troi Eich Llaw a'r pecynnau sydd ar gael, ewch i'r dudalen we; https://inspiringskills.gov.wales/have-a-go, neu mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r wybodaeth isod:

Ffoniwch ni ar 07385 419 205 neu 07385 419 209

 

E-bostiwch ni ar info@haveagowales.co.uk

Nol i dop y dudalen