Ar dydd Llun, Ebrill 12fed, lansiwyd y prosiect Troi eich Llaw ei menter gweithdai. Mae’r rhaglen elît o weithgareddau ar gael i ysgolion yng Nghymru maent yn cynnwys cyfres o weithdai dan arweiniad ac yn archwilio gyrfaoedd trwy addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Ers Tachewedd 2020, mae’r menter Toi eich Llaw wedi cyflawni peilot o’r gweithdai Peirianned ac Adeiladu. Derbyniwyd y peilotiaid gyda llawer o gyffro ac ymgysylltiad gan yr ysgolion.
‘Rwy’n gyffrous iawn ynglŷn â lansio y rhaglen gweithdai i helpu ysbrydoli, ymgysylltu a chreu brwdfrydedd dros addysg a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith gweithlu’r dyfodol. Mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi ymrwymo i gyflawni rhagoriaeth.’ Michelle Snell, Pencampwr Troi eich Llaw
Cyflwynir y gweithdai gan unigolion sydd â phrofiad mewn meysydd penodol, gyda’r nod o ddarparu profiadau bywyd go iawn all ysbrydoli eraill. Mae ein dulliau cyflwyno yn hyblyg a byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae'r rhaglen gyfan o weithdai yn cynnwys 7 gweithdy, sy'n tynnu sylw at addysg a hyfforddiant galwedigaethol ar draws amrywiaeth o sectorau. Mae profiadau ar gael ar draws pum sector, sy’n amrywio o'r cyfryngau i beirianneg.
Mae gan ysgolion tan Mai 28 i wneud cais.
Darganfod mwy gan darllen ein pamffled (LINK) neu i wneud cais dilynnwch y ddolen yma i’r ffurflen gais (LINK)
Os oes angen fwy o wybodaeth ebostiwch info@haveagowales.ac.uk