Troi Eich Llaw o fudd i fyfyrwyr o bob cefndir

Mae ein pecynnau a'n gweithdai Troi Eich Llaw yn addas ar gyfer pob arddull dysgu a gellir eu defnyddio i gyfoethogi addysgu myfyrwyr ar lwybrau dysgu prif ffrwd, yn ogystal â'r myfyrwyr sy’n mwynhau dysgu mwy ymarferol.

Buom yn siarad ag Andrew Walsh o Faes Derw, uned cyfeirio disgyblion yn Abertawe, am yr effaith a gafodd y gweithdai Troi Eich Llaw ar fyfyrwyr a staff yno.

Mae Maes Derw yn ysgol arbenigol, gyda disgyblion ag anawsterau iechyd meddwl ac ymddygiad, ac sy'n cael trafferth gydag addysg brif ffrwd. Mae’r disgyblion hyn yn aml yn dysgu orau o bynciau galwedigaethol ac addysgu mwy ymarferol, anysgrifenedig, a chanfu Andrew fod y pecynnau Troi Eich Llaw yn ategu hyn yn dda.

"Yn benodol, roedd ein dysgwyr ag anawsterau ymddygiad a'n dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 wir yn mwynhau'r ochr ymarferol, ac roedd y gweithgareddau'n rhywbeth nad ydynt fel arfer yn ei wneud." – Andrew Walsh, Maes Derw

Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn pum gweithdy; Weldio siocled, Plymio, Gwaith Coed, Electroneg a Roboteg, amrywiaeth gwych at ddant pawb. Defnyddiodd Maes Derw y gweithdai i ysbrydoli 3 grŵp gwahanol o ddysgwyr 11-16 oed: Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, a dysgwyr ag anawsterau iechyd meddwl. Gyda Chyfnod Allweddol 4 y flaenoriaeth oedd dyheadau gyrfa a chyrchfannau ôl-16, ond gyda Chyfnod Allweddol 3 roedd yn bwysig edrych ar ysbrydoli a gwella eu setiau sgiliau a’u dewisiadau pwnc ar gyfer Cyfnod Allweddol 4.

“Y gwahaniaeth mwyaf sylwais i oedd bod hyn wedi ysbrydoli’r athrawon hefyd. Byddai rhai yn eistedd mewn sesiynau ac yn meddwl ‘gallwn i wneud hyn yn fy ngwersi i’, gan weld yr effaith yn mynd y tu hwnt i’r gweithdai.” – Andrew Walsh

Gwnaeth nifer y gweithdai a’r citiau roedd modd dewis o’u plith greu argraff ar Andrew, gan esbonio y gallai athrawon ddefnyddio hyn i dargedu’r myfyrwyr gorau, yn ogystal â’r rheini â phroblemau presenoldeb ac ymddygiad is. Ym Maes Derw, defnyddiwyd Llais y Disgybl i benderfynu beth oedd o ddiddordeb i’r myfyrwyr eu hunain, cyn mynd ati i ddewis y pum gweithdy olaf.

“Byddwn i yn ei argymell i unrhyw ysgol. Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw ysbrydoli’r plant hyn, edrychwch ar y wefan i weld pa feysydd y gallech chi wneud cais amdanynt.” – Andrew Walsh

Bu'r gweithdai'n llwyddiant ym Maes Derw, gyda phresenoldeb da i bob sesiwn, rhaniad iach rhwng myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd, ac ymatebion cadarnhaol i Lais y Disgybl ar ôl y gweithdy. Isod mae rhywfaint o adborth gan fyfyrwyr:

"Fe wnes i fwynhau'r gweithdai gan fod llwyth o bethau gwahanol i'w gwneud."

 "Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn gwaith coed ac mae'r gweithdai wedi cadarnhau mai dyma’r yrfa i mi pan fyddaf yn gadael yr ysgol." – 

"Mae'r gweithdai wedi fy helpu i benderfynu beth rwyf am ei wneud ym mlwyddyn 10. Rwy'n mynd i fod yn gwneud adeiladu ym mlwyddyn 10 nawr." 

"Cyn y gweithdai doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol ym mis Mai, ond nawr rydw i wedi gwneud cais am y cwrs electroneg yn y coleg, diolch i'r gweithdai." 

Bydd ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o weithdai Troi Eich Llaw yn cau ar 13 Mai, am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais cliciwch yma

Nol i dop y dudalen