Sgiliau’r Dyfodol - Cyfleoedd DPP

Sgiliau’r Dyfodol - Cyfleoedd DPP

Fel prosiect rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar staff cyn gweithgareddau cystadlu. Gyda hyn mewn golwg, dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi bod yn datblygu rhaglen DPP i fynd i’r afael â’r anghenion penodol hyn. 

Yn dilyn ein grwpiau llywio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a dadansoddiad o safonau cystadlaethau’r blynyddoedd blaenorol, mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW) wedi nodi 5 o feysydd sgiliau a fydd yn cael eu blaenoriaethu yn y tymor byr. Y meysydd sgiliau hyn yw:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Marsiandïaeth Weledol
  • Mecatroneg
  • Bricwaith
  • Rhwydweithio 

Oherwydd y cyfyngiadau presennol a pharhaus, bydd ein cynnig DPP ychydig yn wahanol i'r hyn a welsoch yn y gorffennol. Bydd dull cyfunol o ddysgu, a fydd yn cynnwys sesiynau ar-lein, fideos tywys ac adnoddau ar-lein i helpu i roi hwb i’ch setiau sgiliau a’u cryfhau yn y meysydd dewisol hyn. 

Bydd y ffordd newydd hyn o ddysgu yn caniatáu mynediad o bell i hyfforddiant, gan arbed amser ac arian. Gobeithiwn y bydd y model hwn yn dod â llwyddiant ac y bydd yn rhywbeth y gallwn ei efelychu yn y dyfodol. 

I fynegi eich diddordeb yn y sesiynau hyn anfonwch e-bost i info@inspiringskills.wales 

 

Nol i dop y dudalen