O Gdansk i Lyon: Edrych yn addawol i dim Cymru yn y Gemau Olympaidd Sgiliau

Mae prentisiaid a myfyrwyr Cymru yn parhau i ffynnu ar lwyfan byd-eang wrth i WorldSkills Ewrop a WorldSkills Rhyngwladol – cystadlaethau sgiliau mwyaf y byd – ddychwelyd.

Fis Medi eleni, bydd Tîm y DU yn cynnwys cyfanswm o 20 cystadleuydd, a phedwar o’r rhain yn dod o Gymru ac yn ymddangos ar lwyfan mawr EuroSkills Gdańsk yng Ngwlad Pwyl o’r 5ed - 9fed Medi.

Yn y digwyddiad, bydd 600 o weithwyr proffesiynol ifanc medrus dan 25 oed o 32 o wledydd sy’n aelodau - gan gynnwys yr Almaen, y Swistir a Ffrainc - yn cystadlu am deitl y gorau wrth eu crefft.

Yn y gorffennol, mae 35 o gystadleuwyr o Gymru wedi cystadlu mewn gwledydd tramor, gan gynnwys yn Kazan ac Abu Dhabi. Eleni, bydd y cystadleuwyr yn cystadlu yn y cystadlaethau plymio, peirianneg fecanyddol (CAD), gwasanaethau bwyty a datblygiad gwe.

Esboniodd y cystadleuydd Gwasanaethau Bwyty o Goleg Ceredigion, Daniel Davies, sut deimlad oedd cael ei ddewis ar gyfer EuroSkills 2023: “Mae’n dal i fod yn anodd credu y bydda’ i’n cynrychioli Tîm y DU yn Gdansk ym mis Medi. Rydw i wrth fy modd yn cystadlu i herio fy ngwybodaeth a fy sgiliau. Mae’r cystadlaethau’n gyfle gwych i ddysgu cymaint ag y gallwch chi, ac rydw i’n cael gwir deimlad o adrenalin wrth gystadlu.” 

“Fe wnes i ddechrau cystadlu yn rhanbarthol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ond wnes i ddim ennill medal y tro cyntaf. Yna fe wnes i roi cynnig arall arni, ennill Aur a mynd ymlaen i gystadleuaeth Genedlaethol y DU gan gystadlu yn Glasgow. Nawr rydw i wedi cael fy newis yng Ngharfan y DU i hyfforddi am siawns i gyrraedd WorldSkills Lyon ac yn ddiweddar fe ges i gynnig lle yn Nhîm y DU ar gyfer EuroSkills fis Medi eleni.”

Esboniodd Rhydian Brown, cystadleuydd Datblygiad Gwe o Goleg Caerdydd a’r Fro, fanteision cystadlu yn WorldSkills: “Mae WorldSkills yn gallu eich arwain chi at gyfleoedd anhygoel. Yn ogystal â mynd i Gdansk ar gyfer EuroSkills ym mis Medi, rydw i hefyd newydd ddod yn ôl o gymryd rhan yng nghystadleuaeth Genedlaethol Hwngari yr wythnos diwethaf; roedden nhw wedi ein gwahodd ni fel math o hyfforddiant, ac fe ges i gyfarfod â chystadleuwyr yn fy nghategori i o Hwngari a’r Ffindir.”

Yn ogystal ag EuroSkills Gdańsk, mae 21 cystadleuydd o Gymru wedi cael eu henwi yn y garfan ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills Rhyngwladol yn Lyon 2024.  

Y gystadleuaeth ryngwladol – a elwir hefyd yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ - yw’r digwyddiad mwyaf ar gyfer rhagoriaeth sgiliau ac addysg alwedigaethol yn y byd, a bydd llawer o’r cystadleuwyr yn Gdansk yn anelu at y nod terfynol hwn. 

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Rydyn ni mor falch o weld cynifer o’n cystadleuwyr o Gymru yn ennill lle yn Nhîm a Charfan y DU. Mae WorldSkills yn cynnig cyfle i unigolion i arddangos eu sgiliau a’u galluoedd galwedigaethol yn rhyngwladol. 

“Mae llwyddiannau fel hyn yn dangos bod Cymru, fel cenedl, yn cynhyrchu pobl ifanc fedrus a thalentog iawn yn barhaus, sy’n dra chymwys i ymuno â busnesau a datblygu economi Cymru.”

Meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr Dros Dro, WorldSkills UK, sy’n dewis ac yn hyfforddi Tîm y DU at y safon ryngwladol uchaf: “Mae rownd derfynol EuroSkills yn fecanwaith gwerthfawr i brofi ansawdd sgiliau. Drwy asesu sgiliau pobl ifanc mewn cystadleuaeth yn erbyn safonau diwydiant Ewropeaidd, gallwn ni gymharu safonau’r DU â safonau gweddill Ewrop ac, yn bwysig, dod â’r arfer gorau rhyngwladol yn ôl i’r DU drwy gyfrwng ein rhaglenni yn WorldSkills UK.

“Bydd hwn yn gyfle i wella bywydau’r bobl ifanc hynod hyn fydd yn cystadlu fel Tîm y DU.

“Nhw yw arweinwyr eu cenhedlaeth – byddant yn ysbrydoli llawer mwy i ddilyn olion eu traed.  Pob lwc iddynt.” 

Nol i dop y dudalen