Cynllunio cystadleuaeth yn ystod COVID-19


Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 

Dros y 6 mis diwethaf mae COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom, gyda llawer o newidiadau sylweddol i’n ffyrdd o fyw a’r modd rydym yn gweithredu. Er gwaethaf hyn fodd bynnag, rydym wedi bod yn brysur yn y cefndir yn cynllunio ymlaen ar gyfer cyflwyno Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn llwyddiannus.

Yn gynharach eleni, fe gofiwch ein bod wedi wynebu canslo ein digwyddiad dathlu ar gyfer enillwyr medalau 2019/20. Mewn ymdrech i ddathlu eu cyflawniadau, derbyniodd ein dysgwyr yn y rownd olaf eu medalau a’u tystysgrifau gwobrau drwy’r post, ac roedd llythyr oddi wrth Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn mynd gyda nhw. Rydym yn llongyfarch ein holl enillwyr yn gynnes ac yn dymuno pob lwc iddynt gyda'r camau nesaf yn eu bywyd.

Wrth edrych ymlaen, rydym wedi bod yn brysur yn ystod cyfnod clo COVID-19 yn paratoi ar gyfer cylch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’r flwyddyn nesaf. Gyda chydweithrediad gan staff ar draws Cymru rydym wedi cynnal dros 40 o gyfarfodydd Grwpiau Llywio rhithwir i drafod a chynllunio Briffiau newydd ar gyfer yr holl gystadlaethau; diolchwn i chi am eich ymgysylltiad.

Wrth gwrs, er ein bod ni’n cynllunio am y gorau, deallwn ein bod yn gweithredu mewn cyfnod ansicr. Mae iechyd a diogelwch yn flaenllaw wrth i ni wneud penderfyniadau, ac o’r herwydd byddwn yn parhau i fonitro canllawiau’r llywodraeth yn agos a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau amgylchedd cystadlu diogel.

Am y tro, rydym yn parhau i yrru ymlaen ein model cyflwyno ar gyfer cylch cystadleuaeth 2020/21 gyda chofrestriadau’n agor ar Dachwedd 23ain 2020 ac yn cau ar Ragfyr 14eg 2020. 

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn llawer o geisiadau newydd ac yn teimlo’n gyffrous i weld y doniau sydd gennym yma yng Nghymru yn ein digwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru nesaf.

Nol i dop y dudalen