4 cystadleuydd o Gymru i ymuno â Thîm y DU yn WorldSkills Shanghai

WorldSkills DU yn Cyhoeddi'r Dîm DU!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod WorldSkills DU wedi dewis 4 cystadleuydd o Gymru i ymuno â Thîm y DU yn yr 46fed cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai yr Hydref hwn.

Y Cystadleuwyr Cymreig a ddewiswyd yw George Denman (Prifysgol Abertawe), Michael Jones (GE Aviation), a Charles Samson (Coleg Cambria) a fydd yn cystadlu yn Her y Tîm Gweithgynhyrchu, a Ben Lewis (Coleg Gŵyr Abertawe) a fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol.

Mae WorldSkills yn cefnogi pobl ifanc o bob rhan o'r byd i gymryd rhan mewn hyfforddiant a arweinir gan gystadleuthau I asesu ac meincnodi gyda chystadleuwyr o dimau cenedlaethol yw profi eu gallu i gyrraedd safonau o'r radd flaenaf mewn cystadleuaeth sgiliau tebyg i’r Olympaidd.

Bydd cyfanswm o 39 bobl ifanc yn chwifio baner y DU mewn 33 o ddisgyblaethau dros bedwar diwrnod o gystadlu brwd rhwng 13 a 16 Hydref 2022. Bydd pobl ifanc o Gymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn cystadlu gyda chyfoedion o fwy nag 80 gwlad i gael eu coroni gyda'r teitl o'r gorau yn y byd yn eu maes sgil arbennig.

Mae dewis terfynol y garfan yn dilyn sawl rownd o gystadlu, hyfforddiant dwys a datblygiad sgiliau, gyda’r gystadleuaeth ryngwladol yn gam olaf yn nhaith WorldSkills. Cynhelir y gystadleuaeth fyd-eang bob dwy flynedd, a dyma'r digwyddiad addysg alwedigaethol a rhagoriaeth sgiliau mwyaf yn y byd.

Bydd Tîm y DU yn edrych i wella ar ei orffeniad safle 12fed yn nigwyddiad 2019 yn Kazan, Rwsia a dringo'n ôl i'r tabl medalau yn y 10 Uchaf. Bydd tîm y DU yn cystadlu mewn sgiliau gan gynnwys Seiberddiogelwch, Technegydd Lab Cemegol, Adeiladu Digidol, Trin Gwallt, Peirianneg Fecanyddol a Phaentio ac Addurno ac yn brwydro yn erbyn cystadleuwyr o Tsieina, yr Almaen, Awstralia, y Swistir, Japan a mwy. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae hi’n hyfryd gweld cymaint o gystadleuwyr o Gymru’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth WorldSkills ryngwladol. Mae WorldSkills yn dod â rhai o’r bobl fwyaf creadigol, medrus a brwdfrydig yng Nghymru at ei gilydd."

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol ac yn parhau i greu cyfleoedd i bobl ifanc i arddangos y dalent ryfeddol sydd gennym yn y wlad ac i sicrhau bod y sgiliau maent yn eu dysgu’n cael eu defnyddio gan fusnesau yng Nghymru. Mi hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r holl gystadleuwyr.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am broses gystadleuaeth WorldSkills, cliciwch yma.

Nol i dop y dudalen