Mae weldiwr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asio dau neu fwy o ddarnau o fetel at ei gilydd. Mae asiad, neu weld, yn cyfeirio at yr uniad ei hun; lle mae cryfder yr uniad wedi’i weldio’n gryfach na'r darnau metel sylfaenol.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd y cystadleuydd yn gorfod gweithio ar wahanol uniadau wedi’u weldio sydd wedi'u cynllunio i brofi eu sgiliau yn y tair prif broses ymdoddi (fusion) â llaw.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024