Datblygu Gwe

Mae angen sgiliau technegol a chreadigol iawn ar ddylunwyr gwefannau i ddefnyddio rhaglenni codio a meddalwedd arbenigol wrth ddylunio gwefannau. Mae'r diwydiant hwn yn esblygu'n gyson ac mae dylunio gwefannau yn set o sgiliau y mae galw mawr amdanynt.

Yn y gystadleuaeth hon, rhaid i gystadleuwyr ddylunio a chodio gwefan ddilys ac ymatebol. Byddant yn cael eu hasesu ar eu gallu i greu dogfennaeth ddylunio effeithiol a chywir, gan ddefnyddio fframiau gwifren sy'n adlewyrchu'r cynnyrch terfynol. Bydd hefyd angen iddynt ddangos y gallu i godio tudalennau gwe dilys (yn ôl safonau codio da) yn ogystal â rhaeadru dalennau arddull i reoli ymddangosiad elfennau'r dudalen we. Dylid defnyddio sgriptio ar ochr y cleientiaid i ychwanegu animeiddio a rhyngweithioldeb ynghyd â darparu ffwythiant ddilysu cymhleth i wirio mewnbwn allweddol i ffurflen gyswllt adeiledig fanwl.

Rhaid iddynt ddangos sut i sicrhau y gall gwefan fod yn ymatebol er mwyn sicrhau y gellir ei gweld ar borwyr a dyfeisiau symudol gydag un ddalen yn unig i reoli’r porwr a dyfeisiau symudol. Gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio llyfrgelloedd a gyflenwir, neu god CSS eu hunain. Ar y cam hwn, ni fydd disgwyl i chi weithio gyda sgriptio ar ochr y gweinydd.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen