Ail-orffennu Cerbyd

Mae technegwyr Ail-orfennu Cerbydau yn asesu ac yn atgyweirio gwaith paent ar gerbydau ar ôl iddynt gael difrod mewn damwain. Maen nhw’n defnyddio technegau arbenigol i baratoi’r panelau, gweddu lliwiau a rhoi paent ar y cerbyd, gan ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol.

Yn y gystadleuaeth hon, caiff cystadleuwyr eu hasesu ar eu sgiliau, gwybodaeth a’u gallu yn erbyn safonau ac arferion gwaith diwydiannol cyfredol. Bydd angen iddyn nhw arddangos eu bod yn gallu rheoli eu hamser yn dda, bod ganddyn nhw sgiliau datrys problemau a chynlllunio da yn ogystal â phrofi eu gallu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth a defnyddio technegau rhesymegol i ddatrys problemau.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen