Mae staff Gwasanaeth Bwytai yn chwarae rhan hanfodol ym mhrofiad cyffredinol cwsmer mewn bwyty. O osod byrddau'n gywir i feddu ar wybodaeth helaeth am bob eitem sydd ar y fwydlen; mae ansawdd y gwasanaeth yn rhywbeth y mae gwesteion yn aml yn ei gofio cymaint â'r bwyd a diod a weinir.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn cael eu hasesu ar y canlynol:
Sgiliau ymarferol da a dealltwriaeth gadarn o wahanol arddulliau o fwyd a gwasanaeth diodydd; cinio ffurfiol ac achlysurol, theatr fwrdd, gwasanaeth gueridon/arian, gwaith paratoi prosecco a gwasanaeth a gwybodaeth a gwerthfawrogiad o'r gwin. Bydd cystadleuwyr hefyd yn cael eu beirniadu ar eu sgiliau cymdeithasol a bydd disgwyl iddyn nhw gael cyflwyniad personol rhagorol yn ogystal ag arferion gwaith diogel a hylan.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024