Mae plymwr yn aelod hanfodol o'r tîm adeiladu. Mae’n arbenigo mewn gosod a chynnal a chadw systemau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer dŵr poeth ac oer, gwresogi a glanweithdra.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn cael tasg gosod, y mae'n rhaid iddyn nhw ddangos eu gallu i ddehongli'r llun, gweithio'n gywir ac o fewn yr amserlenni a roddwyd.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024