Paentio ac Addurno

Paentio ac addurno yw un o'r crefftau adeiladu y mae’r mwyaf o alw amdani. Mae'n rhaid i Beintiwr/Addurnwr feistroli amrywiaeth eang o sgiliau a thechnegau, sy’n amrywio o adnewyddu tai i beintio pontydd, neu gynnal a chadw adeiladau hanesyddol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o systemau i gyflawni'r canlyniadau gorau, ac yn defnyddio gorffeniadau fel stensiliau, sglein lliw, graenio, marblo a llythrennu.

Yn y gystadleuaeth hon, mae'n rhaid i gystadleuwyr gwblhau prosiect penodol a gynlluniwyd i herio eu gallu i ddilyn cyfarwyddiadau manwl, cynhyrchu gwaith cywir a thaclus, bod yn ddarbodus gyda deunyddiau wrth weithio i amserlenni caeth – gofynion hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu heddiw. Bydd y cystadleuydd yn cael ei farcio ar Iechyd a Diogelwch.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen