Cystadleuaeth tîm yw hon a fydd yn ymchwilio i sut y gall technolegau amrywiol oddi mewn i’r sector technoleg werdd ddarparu ynni ar gyfer cartrefi a diwydiant. Er enghraifft, tyrbinau gwynt, solar ffotofoltäig, dyfeisiau llanw, tyrbinau dŵr a hydrogen.
Mae cwmpas y gystadleuaeth yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i greu datrysiad egni cyfannol ar gyfer ynys ffuglennol oddi ar arfordir gorllewin Cymru.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024