Mae Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd arbenigol i greu delweddau ac animeiddiad dau a thri dimensiwn o brosiectau ym maes gweithgynhyrchu ac i'w defnyddio mewn hysbysebion a llawlyfrau technegol. Mae CAD yn hanfodol ym myd diwydiant heddiw gan fod yr animeiddiadau a gynhyrchir yn gallu cyfrifo dimensiynau, goddefiannau ac atebion posibl, yn ogystal ag efelychu sut y bydd dyluniad yn gweithio yn y byd go iawn.
Yn y gystadleuaeth hon, byddwn yn profi cystadleuwyr ar wahanol gymwyseddau sy'n hanfodol ar gyfer Dylunydd CAD. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys defnyddio CAD i gynhyrchu lluniadau technegol 2D, modelau 3D a chydosodiadau 3D.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024