Yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu bydd tîm o dechnegwyr medrus yn gorfod dylunio ac adeiladu eu hateb eu hunain i friff penodol. Bydd hefyd angen cynhyrchu dogfennaeth gynhwysfawr am y prosiect fel rhan o'r gystadleuaeth hon. Bydd angen i bob aelod o'r tîm ddangos creadigrwydd, sgiliau amlddisgyblaethol, ysbryd cyd-dynnu, sgiliau cyfathrebu a rhifedd, y gallu i feddwl yn feirniadol, sgiliau mathemateg, cyfrifiadureg, a dadansoddi, yn ogystal â'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd rhaid i gystadleuwyr arddangos amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys dylunio ar lefelau drafft a chyfrifiadurol, a’r defnydd o sgiliau gweithgynhyrchu megis peiriannu â llaw a thrwy gymorth cyfrifiadur, weldio, gosod a chydosod, awtomeiddio ac electroneg.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024