Technoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn

Mae angen amrywiaeth eang o sgiliau arbenigol ar dechnegwyr Modurol Cerbydau Ysgafn. Maen nhw’n cynnal archwiliadau a gwaith cynnal a chadw ar geir a faniau ysgafn, yn profi systemau cerbydau ac yn dadansoddi diffygion, yn ogystal â chynghori cwsmeriaid ynglŷn â gwaith trwsio. Maen nhw’n gyfrifol am gynhyrchu amcangyfrifon a chynnal cofnodion gwasanaethau a chynnal a chadw. Mae technegwyr heddiw yn defnyddio amrywiaeth eang o offer i’w cynorthwyo yn eu gwaith, o ddiagnosteg uwch i’r sbaner a thyndro mwy traddodiadol.

Yn y gystadleuaeth hon, caiff cystadleuwyr eu hasesu ar eu sgiliau, gwybodaeth a gallu yn erbyn safonau diwydiannol ac arferion gwaith cyfredol. Bydd angen iddyn nhw arddangos eu bod yn gallu rheoli eu hamser, datrys problemau a bod ganddyn nhw sgiliau cynllunio da yn ogystal â phrofi eu gallu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth a defnyddio technegau rhesymegol i ddatrys problemau.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen