Technegydd Labordy

Mae gan Dechnegwyr Labordy sgiliau arbenigol sy'n eu galluogi i weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y diwydiannau cemegol, biofeddygol, fferyllol, biotechnolegol a diwydiannau eraill mewn sefydliadau addysgol. Maen nhw’n gallu gweithio fel aelod o dîm labordy neu fel unigolyn, gan gymryd cyfrifoldeb am ansawdd a chywirdeb y gwaith sy’n cael ei wneud.

Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn cael eu hasesu ar sail eu sgiliau a’u gallu fel technegwyr sy’n camu i faes gwyddonol technoleg labordy. Disgwylir iddyn nhw fod a set graidd o sgiliau a gallu technegol yr hoffen nhw eu dangos mewn sefyllfa gystadleuol a meithrin eu sgiliau ymhellach drwy gystadlu.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen