Mae seiri coed yn gweithio gyda phren i adeiladu drysau, ffenestri, dodrefn gosod a gosodiadau parhaol eraill mewn adeiladau.
Yn y gystadleuaeth hon, mae'n rhaid i gystadleuwyr gwblhau prosiect penodol a gynlluniwyd i herio eu gallu i ddilyn cyfarwyddiadau manwl, cynhyrchu allbynnau gwaith cywir a thaclus, bod yn ddarbodus gyda deunyddiau wrth weithio i amserlenni caeth – gofynion hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu heddiw. Bydd y cystadleuydd yn cael ei farcio ar Iechyd a Diogelwch.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024