Technegydd Cymorth TG

Mae Technegwyr Cymorth TG yn hanfodol i waith busnes o ddydd i ddydd yn y byd modern sydd ohoni. Maent yn rhoi cymorth i ddefnyddwyr cyfrifiaduron drwy ateb cwestiynau, datrys problemau technegol a chynnal rhwydwaith, meddalwedd ac offer cyfrifiadurol eu cwmni.

Yn y gystadleuaeth hon, bydd y cystadleuwyr yn ymgymryd â chyfres o dasgau ymarferol a fydd yn dangos eu galluoedd a'u sgiliau ym maes systemau cyfrifiadurol a rhwydweithio. Bydd y brîff cystadlu llawn yn cael ei ddarparu i bob cystadleuydd ar fore rownd gyntaf y gystadleuaeth.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen