Roboteg Ddiwydiannol

Mae proffesiynau mewn Roboteg Ddiwydiannol yn cynnwys technegwyr awtomeiddio, peirianwyr cynnal a chadw neu beirianwyr gosod. Maent yn gosod, profi, rhaglennu neu gynnal gosodiadau robotig, lleihau amseroedd beicio a dileu symudiad gwastraff.

Bydd y gystadleuaeth hon yn gystadleuaeth 2 berson a fydd yn profi'r cystadleuwyr ar eu gallu i ddefnyddio meddalwedd arbenigol i sefydlu cell roboteg ddiwydiannol a rhaglennu braich roboteg i gyflawni tasg benodol. Disgwylir i gystadleuwyr weithio gyda'i gilydd yn eu parau i reoli'r llwyth gwaith a chynllunio eu hymagwedd eu hunain at yr her. Bydd hefyd elfen o fodelu CAD yn y gystadleuaeth, sgil graidd y dylai fod gan bob peiriannydd ddealltwriaeth sylfaenol ohoni.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen