Electroneg Ddiwydiannol

Mae technegwyr a pheirianwyr Electroneg Ddiwydiannol yn gweithredu offer arbenigol mewn meysydd amrywiol sy’n cynnwys awyrofod, y lluoedd arfog, y diwydiant adloniant, iechyd, ac addysg. Rhaid iddyn nhw fireinio eu sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus er mwyn dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, yn ogystal â gallu dilyn manylebau manwl.

Yn y gystadleuaeth hon, bydd y cystadleuwyr yn gwneud gwaith technegydd electroneg a bydd gofyn iddynt weithio i’r safonau a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd disgwyl iddyn nhw ddilyn set o gyfarwyddiadau cyn y gystadleuaeth, gan lawrlwytho a dod yn gyfarwydd â’r meddalwedd cylched printiedig pwrpasol a ddefnyddir yn y gystadleuaeth.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen