Mae’r rhai sy’n gweithio gyda choed yn paratoi, torri, ffitio a gosod pren at ei gilydd ar gyfer pethau fel fframweithiau adeiladu, drysau a ffenestri ar brosiectau masnachol ac mewn cartrefi.
Yn y gystadleuaeth hon, mae angen i gystadleuwyr fesur, nodi a ffurfio uniadau syml er mwyn creu bocs syml gyda chlawr y gellir ei ddefnyddio (bydd y cystadleuwyr yn mynd a’r dasg wedi ei chwblhau adre ar ddiwedd y gystadleuaeth).
Mae angen i gystadleuwyr hefyd fesur a nodi 2 uniad hanerog a chyflwyno’r gwaith i’w farcio cyn ffurfio’r uniad, gan ddefnyddio ffêr llaw yn unig.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024