Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau

Mae Staff Cyfryngau Digidol yn ymwneud â phob cam o brosiect, boed yn rhaglen, ffilm neu fideo. Maent yn gweithio gyda chyfarwyddwyr, gyda chamerâu, sain, dylunwyr set, ac maent yn rhan o’r broses ôl-gynhyrchu i helpu i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus, yn brydlon, ac o fewn y gyllideb.

Mae'r gystadleuaeth wedi’i dylunio i ganolbwyntio ar yr holl sgiliau sy’n hanfodol o fewn y diwydiant Cyfryngau Digidol. Bydd cystadleuwyr yn ymgymryd â rolau creadigol amrywiol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cyfryngau, gan sicrhau eu bod yn gweithio tuag at safonau'r diwydiant.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen