Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd

Cynlluniwyd y gystadleuaeth hon er mwyn creu cyfleoedd cystadleuol i ddysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd â chyrchfan arfaethedig o fyw â chymorth/byw’n annibynnol.
Caiff y cystadleuwyr fynediad i ystafell reoledig a bydd ganddynt amrywiaeth o dasgau i'w cwblhau o fewn terfyn amser priodol. Bydd y marcio y digwydd ar ôl cwblhau'r tasgau hyn. Bydd yr holl dasgau yn gwbl hygyrch ac yn caniatáu ar gyfer lefelau cefnogaeth gwahaniaethol ac offer arbenigol - Bydd hyn yn dangos elfen realistig a pherthnasol mewn perthynas â’r dilyniant tebygol i fyd byw â chymorth yn achos y cystadleuwyr. Er enghraifft – gall y dysgwyr ddefnyddio 'tegell arllwys' arbenigol neu staff cymorth uniongyrchol i’w cynorthwyo, gyda chyfarwyddyd gan y cystadleuydd, fel y byddent yn ei wneud pe baent yn defnyddio'r un cyfleusterau yn eu cyrchfannau yn y dyfodol.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen