Sgiliau Cynhwysol: Cynorthwyydd Ffitrwydd

Mae'r Cynorthwyydd Ffitrwydd wedi cael ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sy'n gweithio ar lefelau is ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu dangos eu sgiliau yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.

Mae campfeydd yn brysur iawn ac oherwydd cyfyngiadau amser rhwng sesiynau a maint dosbarthiadau, yn aml mae angen cymorth ar Hyfforddwyr Personol wrth baratoi sesiynau. Maen nhw’n gofyn i'r Hyfforddwr Cynorthwyol helpu i groesawu a rhag-sgrinio'r cleientiaid, ateb cwestiynau, paratoi/dangos, cynnal brwdfrydedd y cleientiaid, helpu dangos yr ymarferion Cynhesu ac Oeri a helpu rhoi'r offer i gadw.

Bydd y gystadleuaeth yn profi sgiliau cyfredol myfyrwyr o ran ffitrwydd/hamdden/iechyd a hynny mewn amrywiaeth o dasgau a ysgogir gan y diwydiant lle byddan nhw’n cael eu beirniadu gan arbenigwyr sy'n arwain y sector o bob rhan o'r DU.

Bydd gofyn i’r cystadleuwyr gyflawni amrywiaeth o dasgau y byddai eu hangen ar Hyfforddwr Ffitrwydd Cynorthwyol sy'n gweithio mewn clwb iechyd, campfa neu fan awyr agored.
Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn amgylchedd campfa.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen