Technoleg Cerbydau Trwm

Mae angen amrywiaeth eang o sgiliau arbenigol ar Dechnegwyr Cerbydau Trwm. Maent yn gwneud archwiliadau a gwaith cynnal a chadw ar gerbydau nwyddau trwm, yn profi systemau cerbydau ac yn dadansoddi beiau, yn ogystal â rhoi cyngor i gwsmeriaid ar waith atgyweirio. Maen nhw’n gyfrifol am gynhyrchu amcangyfrifon a chynnal cofnodion gwasanaethau a chynnal a chadw. Mae technegwyr heddiw yn defnyddio ystod o offer i’w cynorthwyo yn eu rôl, o ddiagnosteg uwch i’r sbaner a thyndro mwy traddodiadol.

Yn y gystadleuaeth hon, caiff cystadleuwyr eu hasesu ar eu sgiliau, gwybodaeth a’u gallu yn erbyn safonau ac arferion gwaith diwydiannol cyfredol. Bydd angen iddyn nhw arddangos eu bod yn gallu rheoli eu hamser yn dda, bod ganddyn nhw sgiliau datrys problemau a chynllunio da yn ogystal â phrofi eu gallu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth a defnyddio technegau rhesymegol i ddatrys problemau.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen