Mae gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu gofal o safon i unigolion mewn amrywiaeth o gyfleusterau, fel meithrinfa, cartref preswyl, ysbyty, neu sefydliad gofalu arall. Mae natur eu gwaith yn gofyn iddyn nhw feddu ar wybodaeth a sgiliau sy'n cwmpasu elfennau o gymdeithaseg, bioleg, maeth, y gyfraith, a moeseg.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd disgwyl i’r cystadleuwyr ddefnyddio crebwyll a chymryd camau gweithredol priodol i roi cymorth i unigolion gadw eu hannibyniaeth, urddas a rheolaeth mewn amrywiaeth o ymarferion ymarferol.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024