Mae gan driniwr gwallt yr hyfforddiant a’r sgiliau i dorri neu steilio gwallt er mwyn newid neu gynnal delwedd rhywun. Mae hyn yn digwydd gan ddefnyddio cyfuniad o liwio gwallt, ei dorri a thechnegau creu gwead.
Yn y gystadleuaeth hon, asesir cystadleuwyr ar y sgiliau a’r gallu sy’n ofynnol ar gyfer y diwydiant hwn. Disgwylir iddynt gyflwyno’u hunan fel gweithwyr proffesiynol a bod yn gallu gweithio’n ddiogel a threfnus drwy’r dasg.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024