Gwyddoniaeth Fforensig

Mae gwyddonwyr fforensig yn archwilio safleoedd trosedd i gasglu, cadw a dadansoddi tystiolaeth wyddonol ar gyfer cynnal ymchwiliad. Yn ogystal â'u rôl mewn labordai, mae gwyddor fforensig yn cyflwyno tystiolaeth fel tystion arbenigol drwy ddarparu tystiolaeth ffeithiol mewn llys barn. Bydd y dystiolaeth hon yn ymwneud â digwyddiadau bwriadol a damweiniol. Mae eu harbenigedd a'u safonau uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr euog yn cael eu herlyn.

Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn cael eu hasesu ar eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth o Wyddor Fforensig a'r defnydd o’r wyddor honno o fewn system cyfiawnder troseddol yn y Deyrnas Unedig. Bydd angen iddyn nhw ddangos y gallu i gynnal uniondeb (integrity) a pharhad (continuity) drwy gydol y gwaith archwilio, gan sicrhau bod technegau a gweithdrefnau archwilio priodol yn cael eu defnyddio bob amser.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen