Mae dylunwyr ffasiwn yn gweithio mewn nifer o ffyrdd wrth ddylunio dillad a chyfwisgoedd fel breichledau a mwclis. Technoleg ffasiwn yw’r gangen sy’n ymdrin â’r dulliau technegol sy’n ymwneud â “chreu a gwerthu” dilledyn.
Yn y gystadleuaeth hon, caiff cystadleuwyr eu hasesu ar eu creadigrwydd a’u dealltwriaeth o Ddylunio a Thechnoleg Ffasiwn, gan gadw at ymarfer ymchwil o ran ymddangosiad a ffasiwn, a chan ystyried hyd yr amser creu.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024